Dylai myfyrwyr meddygol sy’n symud i’r rheng flaen gael rhan o’u dyled myfyrwyr wedi’i dileu, dywed Plaid Cymru.

Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai myfyrwyr meddygol ar eu blwyddyn olaf, myfyrwyr nyrsio a myfyrwyr sy’n weithwyr gofal yn cael cynnig gwaith dros dro gyda thâl llawn er mwyn cryfhau’r frwydr reng-flaen yn erbyn Coronafirws.

Dywedodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd, Rhun ap Iorwerth AC y dylid dileu dyled y myfyrwyr hynny fel “cydnabyddiaeth” o’r “cyfraniad hollbwysig” maent yn wneud ac y byddant yn parhau i wneud i’r gwaith rheng-flaen.

Dywedodd Mr ap Iorwerth y byddai dyled y cyhoedd i staff iechyd a gofal yn “anfesuradwy” gan ail-adrodd galwadau am i weithwyr rheng-flaen allu cael eu profi rhag blaen, cael cyfarpar gwarchod personol digonol a chefnogaeth i’w hiechyd meddwl.

Dywedodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd, Rhun ap Iorwerth AC,

“Ddydd Iau, daethom oll at ein gilydd i ddangos ein diolchgarwch i weithwyr dewr rheng-flaen y GIG a’r gweithwyr gofal cymdeithasol sy’n arwain y frwydr yn erbyn y Coronafirws, gan arbed miloedd o flynyddoedd bob dydd.

“Mae myfyrwyr meddygol, myfyrwyr nyrsio, a myfyrwyr sy’n weithwyr gofal yn cael eu drafftio i swyddi dros dro gyda thâl llawn i gynyddu gallu a sicrhau y bydd gan ein GIG yr arfogaeth lawn i ymdrin â graddfa’r argyfwng hwn.

“I ddangos ein diolchgarwch ac fel cydnabyddiaeth o’r cyfraniad gwerthfawr maent yn wneud ac y byddant yn parhau i wneud i’r gwaith rheng-flaen tra pery’r argyfwng hwn, dylid dileu rhan o’u dyled myfyrwyr.

“Pan fydd hyn oll drosodd, bydd ein dyled i staff iechyd a gofal yn anfesuradwy. Fodd bynnag, gallwn ddechrau ad-dalu’r ddyled honno yn awr trwy fynnu y gall pob gweithiwr rheng-flaen gael profion, cyfarpar gwarchod personol digonol, a chefnogaeth i’w hiechyd meddwl.