Cefnogi Dioddefwyr Trosedd
Cred Plaid Cymru y dylai dioddefwyr trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol fod wrth galon gwasanaethau cyfiawnder a’r heddlu.
Trwy wrando ar y sawl sydd â phrofiad o ddioddef trosedd, gallwn roi gwell gwasanaethau sy’n fwy ymatebol i anghenion pobl, yn syth wedi’r drosedd, ac yn y tymor hwy.
Byddai Plaid Cymru yn creu Comisiynydd Dioddefwyr i Gymru a allai gynrychioli dioddefwyr troseddau a sefyll dros eu hawliau fel nad yw’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau yn eu hanwybyddu na’u hanghofio.