Diogelwch y Ffyrdd

Mae diogelwch y ffyrdd yn rhan hanfodol o fywyd beunyddiol yng Nghymru, boed fel teithiwr neu yrrwr. Yn anffodus, mae llawer o ddamweiniau ffyrdd yn ganlyniad i yrru diofal. Fe fyddwn yn nodi ffyrdd sydd â nifer uwch na’r disgwyl o ddamweiniau ac yn gweithio gyda llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru, pa gorff bynnag sy’n gyfrifol, i wneud newidiadau i’w gwneud yn fwy diogel ac i leihau damweiniau. Gall hyn gynnwys mwy o arwyddion, newidiadau i gynllun y ffyrdd, yn ogystal â buddsoddi mewn camerâu cyfartaledd cyflymder.

Er bod Plaid Cymru yn cefnogi cyflwyno’r egwyddor o gyflwyno parthau cyflymder 20mya ar ffyrdd yng Nghymru, er mwyn lleihau nifer y damweiniau ac anafiadau sy’n newid bywydau ar y ffyrdd, credwn i’r polisi ei weithredu’n wael gan Lywodraeth Lafur Cymru.

Yr ydym yn cefnogi adolygiad i wneud yn siwr ei fod yn gweithio’n llwyddiannus o ran lleihau gyrru peryglus mewn ardaloedd trefol. Rhaid dysgu gwersi er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn deall y newidiadau sy’n digwydd, a’u bod yn rhan o wneud penderfyniadau yn lleol.

Bydd Plaid Cymru yn ystyried pa bwerau eraill y gellir eu defnyddio i wella ymddygiad gyrwyr, yn enwedig gyrwyr iau oherwydd bod ystadegau’n dangos bod niferoedd uwch ohonynt mewn gwrthdrawiadau traffig.

Trafnidiaeth: darllen mwy