Diogelwch Teithwyr

Mae diogelwch teithwyr yn rhan annatod o gludiant cyhoeddus. Byddwn yn rhoi dyletswydd statudol ar gwmnïau cludiant cyhoeddus i warantu y gall teithwyr gyrraedd eu cyrchfan, neu le diogel. Mae hyn yn cynnwys datblygu systemau mwy cyson a thryloyw i adrodd a chofnodi digwyddiadau o gamdriniaeth sy’n effeithio ar fenywod a phobl fregus ar gludiant cyhoeddus, ac i wella goleuo a chyhoeddiadau sain dwyieithog ar bob gwasanaeth cludiant cyhoeddus, ar y cerbydau ac mewn arosfannau/ gorsafoedd, ac yn strydoedd o gwmpas gorsafoedd rheilffyrdd a phrif arosfannau bysus. Byddwn yn brwydro i sicrhau bod giard ar wasanaethau trên ledled Cymru.

Trafnidiaeth: darllen mwy