Cefnogi’r Diwydiant Adeiladu yng Nghymru
Nod ein polisi ‘Unnos’ yw cefnogi’r diwydiant adeiladau yng Nghymru fel rhan o’n cynigion, trwy greu canolfannau rhagoriaeth mewn gwaith adeiladu newydd ac ôl-ffitio’r stoc dai presennol.
Byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i wella cadwyni cyflenwi a llafur Cymreig lleol, fel bod modd cadw’r elw o’r diwydiant codi tai yng Nghymru yn hytrach na’i allforio gan y cwmnïau adeiladwyr mawr.
I ddatblygu mwy ar gynlluniau datblygu ledled Cymru, mae angen i ni nodi tir priodol, ac asio hyn yn iawn ag anghenion eraill y gymuned, gan gynnwys darparu gofal iechyd, addysg a thrafnidiaeth ymysg eraill. Mae hyn yn golygu cynllunio strategol ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol i sicrhau bod hyn yn digwydd.