Cwestiynau difrifol ynghylch bargen arall gwerth miliynau o bunnoedd gyda’r DUP

44499356734_abf6ec47f7_k.jpgRhaid i Gymru gael ei chyfran deg o gyllid -Jonathan Edwards AS

Mae llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Jonathan Edwards AS, wedi cwestiynu cyfreithlondeb y £140 miliwn o gyllid ychwanegol y dywedwyd i Ogledd Iwerddon gael ac y disgwylir cyhoeddiad amdano yn Natganiad y Gwanwyn sydd ar fin dod.

Postiodd Dirprwy Arweinydd y DUP Nigel Dodds AS ar Twitter ddoe fod £140 miliwn wedi ei sicrhau ar gyfer cyllideb Gogledd Iwerddon “y tu allan i broses arferol y grant bloc”. Mae cyllid fel arfer yn cael ei neilltuo i’r sefydliadau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ar sail cyfrif seiliedig ar boblogaeth a adwaenir fel Fformiwla Barnett. Yn dibynnu ar lefel y datganoli a nifer y bobl ym mhob gwlad, mae San Steffan yn neilltuo cyllid i bob gweinyddiaeth ddatganoledig, a adwaenir fel y grant bloc. 

Mae unrhyw gynnydd mewn gwariant yn Lloegr hefyd yn cael ei gyfateb – ar sail poblogaeth – gyda’r hyn a elwir ynArian Dilynol Barnett’.

Awgryma datganiad Mr Dodds fod cyllid ychwanegol wedi ei sicrhau ar gyfer Gogledd Iwerddon, heb fod yn seiliedig ar Fformiwla Barnett. Mae Cymru a’r Alban felly yn annhebygol o gael codiadau cyfatebol yn eu cyllidebau. 

Holodd Mr Edwards aibargen stafelloedd cefn arall oedd hon. Aeth yn ei flaen i ddweud petai hyn yn wir, y byddai’nanodd dod i unrhyw gasgliad arall ond fod y Llywodraeth hon yn San Steffan yn prynu pleidleisiau seneddol.” 

Fel rhan o’u bargen hyder-a-chyflenwi gyda Llywodraeth San Steffan, cytunodd y DUP ar gynnydd o £1 biliwn yng nghyllideb Gogledd Iwerddon i gefnogi’r Ceidwadwyr mewn pleidleisiau pwysig. Ni chafodd cynnydd tebyg ei roi i gyllidebau Llywodraethau Cymru na’r Alban. 

Yn ei sylw, meddai Jonathan Edwards AS:  

Mae angen gofyn cwestiynau difrifol ynghylch y £140 miliwn hwn yr ymddengys y mae Llywodraeth San Steffanyn ei roi i’r DUP.  

Os mai bargen stafell gefn arall yw hon, byddai’n anodd dod i unrhyw gasgliad arall ond fod y Llywodraeth hon yn San Steffan yn prynu pleidleisiau seneddol . Ni ddylai trethi Cymru gael eu defnyddio i brynu pleidleisiau gwleidyddion y DUP.

“Mae cytundebau amheus gyda’r DUP eisoes wedi gweld dros biliwn o bunnoedd yn mynd i Ogledd Iwerddon, ond ni dderbyniodd Cymru unrhyw gynnydd o’r fath. Yn bendifaddau, rhaid i Gymru gael ei chyfran deg o arian. 

Yn anad dim, mae hyn yn crynhoi’n berffaith gyflwr truenus pethau yn San Steffan. Mae’r wladwriaeth Brydeinig wedi torri. Dyw gwleidyddiaeth ddim yn gweithio er lles pobl Cymru."

 

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.