Plaid Cymru yn galw am “ail-gydbwyso economaidd” cyn y Gyllideb

44499356734_b3dca0b687_o.jpg

Cyn Cyllideb dydd Llun, mae Plaid Cymru wedi galw am amrywiaeth o fesurau i “ail-gydbwyso anghyfiawnder economaidd gwreiddiedig” y DG. Pwysleisiodd Jonathan Edwards AS fod economi’r DG eisoes yn “datgysylltu” o weddill Ewrop a’i fod yn wynebu bygythiadau enfawr wrth i derfyn amser Brexit o Fawrth 2019 nesáu.

Gan gyfeirio at ddadansoddiad gan y Sefydliad Astudiaethau Ariannol, tynnodd Mr Edwards sylw at y modd mae economïau’r DG ac Ewrop wedi mynd i gyfeiriadau cynyddol wahanol ers refferendwm the 2016. Mae’r DG, oedd ar frig y G7 o ran twf cyn y refferendwm, yn awr ar waelod y tabl hwnnw, y tu ôl i fwyafrif gwledydd eraill yr UE.

Mae asesiadau effaith Llywodraeth San Steffan, adroddiadau Llywodraeth Cymru a dadansoddiad annibynnol wedi dangos yn gyson y bydd Cymru yn dioddef effeithiau anghymesur o negyddol oherwydd Brexit. Galwodd Mr Edwards hefyd am i’r hyn ddaw yn lle cyllid yr UE– Cronfa Rhannu Ffyniant San Steffan – i gael ei gyllido’n ddigonol a’i weithredu er mwyn gwneud yn sicr na fydd Cymru’n derbyn yr un geiniog yn llai, fel yr addawyd yn ystod refferendwm Brexit.

Mae llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys wedi galw am gynnwys amrywiaeth o fesurau yn y Gyllideb, gan gynnwys:

  • Arian dilynol llawn yn deillio o adeiladu HS2 a datganoli’r seilwaith rheilffyrdd
  • Cronfa Rhannu Ffyniant – fformiwla fydd yn amddiffyn taliadau a wnaed i orllewin Cymru a’r cymoedd– dim ceiniog yn llai
  • Asesu pob rhyddhad treth yn annibynnol – Mae mesurau rhyddhad trethi yn costio £155bn y flwyddyn i Drysorlys San Steffan. Er enghraifft, mae Rhyddhad Treth Entrepreneuriaid, sydd o fudd i ychydig o filiwnyddion dethol, yn costio £3bn y flwyddyn
  • Cyfartalu rhyddhad Treth Pensiwn ar gyfradd safonol gan arbed £10bn y flwyddyn.
  • Llenwi twll du’r Credyd Cynhwysol
  • WASPI – cyllido teg i sicrhau setliad rhesymol i fenywod y mae cynnydd yn oedran pensiwn y wladwriaeth wedi effeithio arnynt.
  • Rhewi toriadau i Dreth Gorfforaeth - torrwyd y dreth gorfforaeth eisoes o 28% i 19% a bydd yn cyrraedd 17% erbyn 2020, ac eto, nid yw buddsoddiad gan fusnes wedi cynyddu.
  • Pecyn datganoli ariannol wedi Brexit - TAW, treth meysydd awyr a phwerau treth gorfforaeth i’w datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Pwysleisiodd Mr Edwards mai’r gyllideb hon cyn Brexit oedd y cyfle olaf i San Steffan roi i Gymru yr arfau cyfansoddiadol ac economaidd mae arni eu hangen cyn gadael yr UE.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Jonathan Edwards AS:

“Ers refferendwm 2016 mae economi’r DG wedi datgysylltu o weddill Ewrop. Gan blymio o frig y tablau twf i’r gwaelod, mae economi’r DG ar ddibyn argyfwng ddegawd wedi’r dirwasgiad mawr. Mae arbenigwyr wedi amlinellu’r ffaith fod yr economi heddiw £40biliwn yn llai nac y gallasai fod petai’r bleidlais wedi mynd y ffordd arall – ac y mae hynny hyd yn oed cyn i ni adael y bloc masnachu mwyaf yn y byd.

“Gyda gwario cyhoeddus fel cyfran o GDP ar lefelau nas gwelwyd ers canol y ganrif ddiwethaf, mae unrhyw honiad fod ‘llymder ar ben’ yn chwerthinllyd. Llywodraeth San Steffan yw hon sydd ag obsesiwn â thargedau ariannol y mae’n eu methu dro ar ôl tro, ac sy’n ddall o gaeth i Brexit fydd y weithred fwyaf o hunan-niweidio economaidd a wnaeth unrhyw wladwriaeth erioed.

“Ar hyn o bryd, mae Cymru’n cael ei gorfodi i ymladd yn erbyn erydu ein heconomi gydag un llaw wedi’i chlymu y tu ôl i’w chefn. Dylai San Steffan fanteisio ar y cyfle hwn i roi i Gymru y pwerau mae arnom eu hangen i ail-godi ein heconomi.

“Gyda Brexit wedi eu gwneud yn fwy eofn, mae San Steffan yn awr fel petaent am gipio yn ôl reolaeth dros ddatblygu economaidd a’r arian a gawsom o ganlyniad i’n haelodaeth o’r UE. Bydd arian hanfodol a ddefnyddiwyd i liniaru esgeulustod San Steffan yn cael ei gadw draw o Gymru ar waethaf addewidion na fyddai ein cenedl ar ei cholled o’r un geiniog.

“Y Gyllideb hon cyn Brexit yw’r cyfle olaf i San Steffan roi i Gymru yr arfau i amddiffyn ei hun rag ymosodiad economaidd Brexit

“Bydd y cynigion a osodwyd allan gan Blaid Cymru yn dechrau ail-gydbwyso’r anghyfiawnder economaidd gwreiddiedig a grëwyd gan un Llywodraeth San Steffan ar ôl y llall. O fewn gafael llethol y Wladwriaeth Brydeinig, fodd bynnag, fydd Cymru byth yn cyrraedd ei photensial. Dim ond trwy annibyniaeth y medrwn godi’r Gymru Newydd.” 

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.