Siân Gwenllian AS yn galw am gynllun dal i fyny clir i ddisgyblion yn dilyn misoedd o addysg goll

Mae angen gosod cynlluniau pendant mewn lle sy’n mynd i’r afael ag anghenion disgyblion ledled Cymru oherwydd bod Covid-19 wedi amharu ar eu haddysg, meddai Plaid Cymru.

Dywedodd Gweinidog Addysg Cysgodol Plaid Cymru Siân Gwenllian AS bod angen cynlluniau i gefnogi dysgu adre a dysgu cyfunol, ac ymgyrch recriwtio staff i sicrhau bod disgyblion yn cael mwy o ymgysylltu fel yr “allwedd i adferiad”.

Ychwanegodd Ms Gwenllian y dylid “annog athrawon a chynorthwywyr addysgu sydd wedi ymddeol i ail-ymuno” gydag athrawon cyflenwi a ddylai gael cynnig contractau ffurfiol a dylid cynnig secondiadau ysgol i gyn-athrawon sydd bellach yn gweithio mewn swyddi eraill neu mewn awdurdodau lleol, consortia addysg neu gyrff addysgol.

Dywed Gweinidog Addysg Cysgodol Plaid Cymru, Siân Gwenllian AS,

“Mae’r tarfu pellach anochel ar addysg yn golygu bod miloedd o’n plant a’n pobl ifanc yn cael eu gadael ar ôl a’u lles yn cael ei danseilio - mae angen i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Cynllun Adfer Addysg a Lles i egluro’n fanwl sut y bydd disgyblion a myfyrwyr yn cael cymorth i ddal i fyny ag addysg a gollwyd.

“Mae angen iddo gynnwys camau ar unwaith i wella addysgu adre, opsiynau ar gyfer dysgu cyfunol pan fydd yn ddiogel yn ogystal â chynllun cynhwysfawr ar gyfer adfer y bydd angen ei weithredu dros y blynyddoedd nesaf. Dylai hefyd gynnwys Ymgyrch Recriwtio enfawr i ddenu mwy o staff oherwydd yr allwedd i adferiad yw mwy o ymgysylltu rhwng addysgwyr a myfyrwyr.

“Mae’r rhai sydd wedi cael eu gadael ar ôl fwyaf angen cael eu nodi drwy gynlluniau addysg unigol gyda chymorth wedyn wedi’i dargedu at y rhai sydd a’r angen mwyaf.

“Croesawyd cynllun adfer Covid cychwynnol y Gweinidog Addysg gwerth £29 miliwn ond nawr gydag wythnosau os nad misoedd o darfu pellach o’n blaenau, mae angen i ddisgyblion a rhieni fod yn hyderus y bydd buddsoddiad sylweddol a bod Cynllun Adfer cynhwysfawr ar y gweill, dan arweiniad yr Adran Addysg yn Llywodraeth Cymru.”