Datganiadau swyddogol wedi marwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II

Datganiad swyddogol Arweinydd Plaid Cymru Adam Price wedi marwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II:

“Yn ystod teyrnasiad hir Ei Mawrhydi gwelwyd cyfnod o newid aruthrol yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a gweddill y byd.

“Roedd ganddi ymdeimlad dwfn o ddyletswydd a bydd miliynau ar draws y byd yn ei chofio fel ffigwr o gysur, sefydlogrwydd a pharhad ar adegau o argyfwng.

“Ar ran Plaid Cymru, estynnaf ein cydymdeimlad dwysaf i’r Teulu Brenhinol yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

 

Liz Saville Roberts AS - Datganiad ar farwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II.

“Mae Grŵp Plaid Cymru yn San Steffan yn estyn ein cydymdeimladau dwysaf â’r Teulu Brenhinol ar yr adeg drist hon.

“Sefodd ei Mawrhydi Y Frenhines yn gyson trwy gydol ein bywydau yn ystod cyfnod o newidiadau dirfawr yng Nghymru, y Deyrnas Gyfunol a’r byd penbaladr. Ymroddodd i’w dyletswyddau ac i wasanaeth cyhoeddus.

“Mae gwerthoedd o’r fath yn annwyl i bobl Cymru. Boed iddi gysgu mewn hedd.”