Elin Jones

Elin Jones

Gwefan Facebook Twitter Instagram E-bost Gwefan y Senedd

Y Llywydd

Etholaeth: Ceredigion

Etholwyd Elin ym mis Mai 1999 fel yr Aelod Cynulliad dros Geredigion, ac yn nhymor cyntaf y Cynulliad hi oedd Gweinidog yr Wrthblaid dros Ddatblygiad Economaidd. Yn dilyn etholiad y Cynulliad yn 2003, llwyddodd i ddal gafael ar y portffolio hwn tan 2006, pan ddaeth hi’n Weinidog yr Wrthblaid dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad. Ar 9 Gorffennaf 2007, ffurfiwyd Llywodraeth Cymru’n Un a phenodwyd Elin yn Weinidog dros Faterion Gwledig.

Ers 2016, Elin yw Llywydd y Senedd. Mae rôl Llywydd y Senedd yn adlewyrchu rolau Llefarwyr a Llywyddion mewn seneddau ledled y byd. Y Llywydd sy'n cadeirio'r Cyfarfod Llawn, gan aros yn wleidyddol ddiduedd bob amser. Mae'r Llywydd yn chwarae rhan weithgar wrth gynrychioli buddiannau'r Senedd a buddiannau Cymru yn genedlaethol, yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae hefyd yn cadeirio Comisiwn y Senedd.

Magwyd Elin ar fferm yn Llanwnnen, ger Llanbedr Pont Steffan a mynychodd Ysgol Gynradd Llanwnnen ac Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan. Aeth ymlaen i Brifysgol Cymru, Caerdydd gan raddio gyda BSc mewn Economeg cyn dychwelyd i Geredigion i fynychu Prifysgol Cymru, Aberystwyth a dilyn ôl-radd MSc mewn Economeg Amaethyddol.

Mae Elin yn byw yn Aberaeron ac yn mwynhau cerddoriaeth, ffilmiau a darllen. Mae'n aelod o gôr ABC Aberystwyth, ac mae hefyd yn aelod o'r grŵp Cwlwm.