Elwyn Vaughan
Ymgeisydd etholaeth Maldwyn a rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru (rhif 3)
Soniwch amdanoch eich hun
Rwyf ar hyn o bryd yn aelod o Gyngor Sir Powys dros Ddyffryn Dyfi. Bûm yn weithgar gyda nifer o ymgyrchoedd amgylcheddol gan gynnwys protestiadau am blastig yn siopau Tesco, a gwneud yn siŵr fod Powys yn cefnogi cynnig am Newid Hinsawdd. Rwyf hefyd wedi chwarae rhan ganolog yn herio arferion traddodiadol ym Mhowys, i sicrhau tryloywder ac atebolrwydd yn y Cyngor, ac wedi canolbwyntio ar yr angen am fwy o gefnogaeth i faterion iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig.
Rwy’n dod o deulu amaethyddol helaeth ym Maldwyn, ac mi fynychais Ysgol Bro Ddyfi, Machynlleth; rwyf ar hyn o bryd yn gweithio mewn datblygu cymunedol, rwy’n gyfarwyddwr cynllun dodrefn cymunedol, ac yn helpu gydag elusen iechyd meddwl.
Yn eich barn chi, beth yw'r peth pwysicaf y dylai'r Senedd wneud dros y pum mlynedd nesaf?
Rhaid iddynt ganolbwyntio ar yr argyfwng hinsawdd gan ei fod yn effeithio arnom i gyd, ac y mae hynny’n golygu cymryd camau clir a phositif ac arwain y ffordd trwy gefnogi egwyddorion Prydain Sero Carbon a’r gwaith a wneir gan Ganolfan y Dechnoleg Amgen.
Hoffwn hefyd weld mwy o sylw ar annog datblygiad cynhyrchu a thechnolegau Hydrogen.
Mae gosod technolegau sero carbon a chyfleoedd economaidd cynhyrchu sero carbon wrth galon yr adferiad economaidd wedi Covid.
Beth wnewch chi dros Faldwyn / Canolbarth a Gorllewin Cymru petaech yn cael eich ethol?
Yn hytrach na chael eu gweld fel bwlch rhwng de a gogledd, fe wnaf yn siŵr y bydd yr etholaeth a’r rhanbarth fel cwlwm Celtaidd i asio gweddill Cymru at ei gilydd.
Mae hynny’n golygu codi ei phroffil, canolbwyntio ar ei heconomi a phwyso am sefydlu corff menter gwledig. Hoffwn hefyd weld sefydlu’r hyn sy’n cyfateb i WRONZ yn Seland Newydd - mudiad ymchwilio gwlân sydd yn hyrwyddo menter ac yn rhoi gwerth ychwanegol i wlân; sefydlu cyfleuster i ychwanegu gwerth at gig eidion yn yr ardal, a thrwy hynny gefnogi ein sector amaethyddol, a hwyluso sefydlu parc menter tebyg i’r un yn Andoain yn Euskadi/Gwlad y Basg, sydd â chynaliadwyedd ac ymdeimlad o le yn greiddiol iddo.