Emily Durrant-Munro yw ymgeisydd Plaid Cymru dros Frycheiniog, Maesyfed a Chwm Tawe. Mae’n gyn Gynghorydd Sir Powys.
Roedd Emily yn gyfarwyddwr ac yn ymddiriedolwr ar Goleg y Mynyddoedd Duon, ac fe wasanaethodd am 5 mlynedd ar y bwrdd i sefydlu’r coleg fel ‘coleg y dyfodol’. Mae Coleg y Mynyddoedd Duon wedi dod â miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad i Ganolbarth Cymru ac mae'n gyfleuster addysg bellach ac uwch llwyddiannus ym Mhowys. Gwasanaethodd Emily hefyd ar Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac fe'i hetholwyd yn Gadeirydd y Fforwm Polisi.