Mae’r etholiad heddiw yn ddewis rhwng dau ddyfodol

20190502_PlaidCymruEULaunch_07.jpg

Pan fyddwn yn mynd i bleidleisio heddiw, bydd gan bob un ohonom ddewis pwysig i’w wneud.

Mae’r dewisiadau ar y papur pleidleisio yn fwy na dim ond enwau pleidiau ac ymgeiswyr. Maent yn cynrychioli  gweledigaethau gwahanol am ddyfodol Cymru.

Ac wrth i bob un ohonom gymryd y bensel yn ein dwylo,  byddwn yn gorfod ateb y cwestiwn – pa weledigaeth yr ydym ni am ei chefnogi?

Ar y naill law, dyna i chi genedlaetholdeb Prydeinig cul, ynysig plaid sydd mor ddi-glem ag y mae’n haerllug. Plaid sydd â chymaint o feddwl ohono’i hun fel ei bod yn gwrthod cyhoeddi maniffesto tan ar ôl yr etholiad. Sôn am gymryd rhywun yn ganiataol.

Neu ar y llaw arall, dyma’r dyfodol disglair, ffyniannus Ewropeaidd i Gymru sy’n cael ei gynnig gan Blaid Cymru. O ddechrau cychwyn yr hunllef Brexit yma, rydym wedi bod yn gyson na fuasem erioed yn cytuno i unrhyw beth fyddai’n difrodi Cymru.

Dyna pam fod ein maniffesto yn cadarnhau ein cefnogaeth ddiamod i Bleidlais y Bobl. Oherwydd tra bod pleidiau San Steffan yn parhau i’w clymu eu hunain mewn drysfa Brexit, yr ydym ni o’r farn mai’r peth iawn a democrataidd i’w wneud yw rhoi’r cwestiwn yn ôl o’ch blaen chi.

Mewn gwirionedd, Plaid Cymru yw’r unig blaid y gwelwch eu henw ar y papur pleidleisio heddiw sydd yn cefnogi’n ddiamod Bleidlais y Bobl a all mewn gwirionedd ennill sedd.

Yr oedd Pôl Baromedr Cymru ar ddydd Llun yn gosod Plaid Cymru yn yr ail le, naw pwynt o flaen y blaid nesaf agosaf oedd o blaid Aros. Cadarnhaodd hynny na all y Democratiaid Rhyddfrydol na’r Gwyrddion ennill o gwbl yng Nghymru.

Yr ydym yn awr yn apelio ar frys at eu pleidleiswyr. Yr unig ffordd i guro Brexit - yr unig ffordd i symud y grechwen oddi ar wyneb Farage - yw pleidleisio Plaid Cymru.

Yr unig ddewis credadwy yw sicrhau mwyafrif dros Aros yw benthyca eich pleidlais i ni. Dyna pam fod carfannau fel tactical.vote yn argymell pleidleisio dros Blaid Cymru, a pham fod Cadeirydd Cymru dros Ewrop, Geraint Talfan Davies, wedi dweud mai “pleidlais dros Blaid Cymru yw’r un gaiff fwyaf o effaith”.

Dyma’r hyn a ddywedwn hefyd wrth y cefnogwyr Llafur hynny sydd wedi eu dadrithio a’u hamddifadu o ddewis gan arweinwyr eu plaid.

Yn ystod yr ymgyrch hon, yr ydym wedi siarad â nifer fawr o gyn-bleidleiswyr Llafur, sydd wedi syrffedu ar natur chwit-chwat Jeremy Corbyn a chydag ymgeision i hwyluso Brexit Torïaidd heb Bleidlais y Bobl.

Dyma ddywedwn ni wrthyn nhw: rhowch fenthyg eich pleidlais i ni. Os gwnewch hynny, gallwn guro Brexit.

Ddydd Llun yn unig, mae  gŵr fu’n aelod o’r blaid Lafur ers amser wedi gadael ei blaid ac wedi ymuno â Phlaid Cymru. Bu Hywel Ceri Jones yn aelod Llafur ers degawdau, ac wedi gwasanaethu fel ymgynghorydd allweddol ar faterion Ewropeaidd i lawer o lywodraethau Cymru.

Yr oedd hefyd yn swyddog uchel yn y Comisiwn Ewropeaidd, sy’n cyfrif ymhlith eu llwyddiannau sefydlu rhaglen Erasmus, sydd yn gymaint o les i’n pobl ifanc, ein darparwyr addysg, a’n cymunedau.

Ym Mhlaid Cymru, yr oedd yn gweld gweledigaeth i Gymru sy’n ffynnu wrth galon Ewrop. Cymru sydd â chymaint i’w gynnig i Ewrop ag sydd gan Ewrop i’w dderbyn ganddi.

Y gwir, wrth gwrs, yw bod yr Undeb Ewropeaidd wedi chwarae ei rhan dros Gymru, gyda miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad yn ein cymunedau.

Ers degawdau, San Steffan sydd wedi ein hesgeuluso, ein hanwybyddu a’n gwthio i’r cyrion.

Mae’r etholiad heddiw yn gyfle i ddweud ‘digon yw digon’. Ers cenedlaethau, mae pleidiau San Steffan wedi cymryd ein cymunedau yn ganiataol, a beth gawson ni yn gyfnewid am hyn?

Heddiw, gallwn ddewis dyfodol disgleiriach. Yn wir, gallwn ddewis cymryd ein dyfodol i’n dwylo ein hunain a’i lunio drosom ein hunain.

Allwn ni ddim parhau i edrych ar bleidiau San Steffan i’n harwain allan o’r argyfwng hwn  a grëwyd ganddynt hwy. Allwn ni ond edrych arnom ni ein  hunain.

Dyna pam fod pleidlais dros Blaid Cymru mor bwysig. Os nad ydych erioed wedi pleidleisio i’r Blaid o’r blaen, neu heb bleidleisio dros neb erioed, pan fyddwch yn rhoi croes yn erbyn ein henw ni, mae’n bleidlais dros well dyfodol.

Dyna pam fod Femi Oluwole, cyd-sylfaenydd ymgyrch y bobl ifanc dros Bleidlais y Bobl, Our Future Our Choice, wedi cefnogi ein hymgeisydd Carmen Smith, gan ddweud: “cenhadaeth Carmen a’i phlaid yn yr etholiad hwn yw gwneud i Gymru gyfrif.”

Prin y gallwn ddychmygu’r dewis arall a gynigir gan Farage a’i giwed. Buasem yn ein torri ni i ffwrdd oddi wrth ein cyfeillion yn yr UE, waeth beth fo’r gost i’n cymunedau, waeth faint o swyddi fyddai’n cael eu peryglu, am mai dyna yw eu prosiect gwleidyddol.

Iddynt hwy, nid mater o gymryd rheolaeth yn ôl ydyw. Nid poeni amdanoch chi, hyd yn oed. Mae’n fater o ganoli grym yn nwylo dyrnaid bach o Brexitwyr cyfoethog iawn, a dwyn pwerau ymaith o Gymru a’n pobl.

Mae’r arolygon barn yn glir. Dim ond Plaid Cymru all eu curo. Dim ond Plaid Cymru all sicrhau buddugoliaeth i Aros. A dim ond Plaid Cymru all wneud i Gymru gyfrif.

Wrth i chi fynd i’r bythau pleidleisio heddiw, dyma f’apêl atoch: pa bynnag blaid y gwnaethoch gefnogi yn y gorffennol, cefnogwch ni y tro hwn.

Oherwydd os ydych, fel ni, yn caru Cymru, eisiau cadw ein haelodaeth o’r UE, ac yn gwrthod caniatáu i’n cenedl gael ei niweidio gan Farage a’i giwed greulon, fe wyddoch mai’r unig ddewis credadwy ar y papur pleidleisio yw Plaid Cymru.

Gyda’n gilydd, gallwn guro Brexit. Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau dyfodol disglair a ffyniannus i’n cenedl. A chyda’n gilydd, gallwn adeiladu’r Gymru newydd.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.