Etholiadau Mewnol 2022
Etholiadau: Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol / Pwyllgor Llywio Plaid Cymru
Mae'r ymgeiswyr canlynol wedi'u henwebu i'w hethol i'r swyddi a nodir.
Gallwch glicio ar enw'r ymgeiswyr sydd wedi darparu maniffesto byr.
Cofiwch, dim ond y rhai sy'n mynychu'r Gynhadledd Flynyddol yn Llandudno neu'n mynychu'r hystings rhithwir ar ddydd Llun 17eg Hydref fydd yn gallu pleidleisio.
Gallwch gofrestru ar gyfer yr hystings rhithwir trwy glicio yma.
Swydd |
Ymgeiswyr / Candidates |
Cadeirydd y Blaid |
|
Cyfarwyddydd Cyfathrebu |
|
Cyfarwyddydd Cydraddoldeb |
|
Cyfarwyddwr Polisi ac Addysg Wleidyddol |
|
Cynrychiolydd Rhanbarthol – (1 dyn, 1 fenyw) |
|
Cynrychiolydd Rhanbarthol – (1 dyn, 1 fenyw) |
|
Cynrychiolydd Rhanbarthol – (1 dyn, 1 fenyw) |
|
Cynrychiolydd Rhanbarthol – (1 dyn, 1 fenyw) |
|
Cynrychiolydd Rhanbarthol – (1 dyn, 1 fenyw) |
|
Pwyllgor Llywio (2 sedd) |
|
Ellen ap Gwynn - Cadeirydd
Cyd-aelodau,
Yn dilyn fy ymddeoliad fel Cynghorydd Sir ac Arweinydd, Cyngor Sir Ceredigion ac mewn ymateb i sawl cais, cytunais i gael fy enwebu fel Cadeirydd Cenedlaethol Plaid Cymru. Byddai’n anrhydedd fawr pe caethwn fy ethol.
Bum yn aelod o’r Blaid ers dyddiau ysgol ym Mhorthmadog ac wedi gwasanaethu ar y Pwyllgor Gwaith fel cynrychiolydd Canolbarth Cymru ac fel Cadeirydd y Pwyllgor Llywio. Yn ystod y cyfnod hynny cefais fy ethol yn Is-gadeirydd a bum yn gweithredu fel Cadeirydd dros dro ar ymddiswyddiad y Cadeirydd ar y pryd. Felly mae gen i’r profiad eisoes o gadeirio’r P Gwaith, y Cyngor Cenedlaethol a’r Gynhadledd.
“Ymlaen” oedd arwyddair fy hen ysgol, a dyna’n union dwi am ei weld i’r Blaid ac i Gymru. Er mwyn symud ymlaen, mae’n rhaid i ni sicrhau bod olwynion mewnol y Blaid yn rhedeg yn llyfn ac yn effeithiol er mwyn cefnogi ein gwleidyddion yng Nghaerdydd, Llundain ac yn lleol i ledaenu ein neges am ddyfodol gwell i’n cenedl.
Gwaith y Cadeirydd ydi sicrhau bod llywodraethiant y Blaid yn gadarn ac yn hysbys i bawb. Mae’n rhaid cael cyfansoddiad clir sydd yn gydnaws a phlaid fodern fel bod arweiniad cadarn boed ar lefel cenedlaethol, etholaethol neu sirol. Gyda newid yn y ffiniau ar gyfer etholiad nesa San Steffan, os na ddaw etholiad cynnar, wrth gwrs!, mae na waith i’w wneud i adeiladu strwythurau ymgyrchu newydd i sicrhau cadw ein seddi presennol ac i ennill rhai newydd.
Gan nad ydw i yn wleidydd gweithredol bellach mae’r amser gen i i’w roi i’r gwaith paratoi tu ol i’r llenni, yn gefn i’n gwleidyddion ar bob lefel.
Buaswn yn ddiolchgar i dderbyn eich cefnogaeth i gael fy ethol yn Gadeirydd ar amser mor bwysig i Gymru.
Mae’r ysbryd wedi codi ac rydym ar y daith i Annibyniaeth!
Marc Jones - Cadeirydd
Marc Jones ydw i a dwi’n sefyll i fod yn Gadeirydd Plaid Cymru. Mae angen cadeirydd a fydd yn sicrhau bod llais ein hased pwysicaf - ein haelodau - yn cael ei glywed yn uchel ac yn glir. Fy mlaenoriaeth fydd adeiladu Plaid ym mhob rhan o Gymru.
Rwy'n dod o ardal lle rydym wedi gorfod adeiladu Plaid o sylfaen isel iawn. Cefais fy ethol yn gynghorydd am y tro cyntaf yn 2008 ac rwyf bellach yn arwain grŵp o naw cynghorydd.
Rwy'n newyddiadurwr - ac mae hynny'n golygu gwrando a chyfathrebu.
Rwy’n cadeirio adran undebau llafur Plaid Cymru Undeb a sefydlais Saith Seren, canolfan Gymraeg Wrecsam, ddegawd yn ôl.
Yn ogystal â bod yn llais i aelodau a staff, rydw i am wella cyfathrebu i'r ddau gyfeiriad o fewn y blaid.
Rydyn ni'n ennill pan rydyn ni'n gwrando ar y bobl, pan rydyn ni'n siarad ar eu rhan yn ein hymgyrchu ac phan maen nhw'n ymddiried ynom. Mae llawer ohonoch eisoes yn gwneud hyn ac mae'n rhaid i ni ddysgu o arfer gorau drwy'r blaid gyfan. Rydw i am rymuso’r aelodaeth ar lawr gwlad.
Ar ei gorau, Plaid Cymru yw’r blaid fwyaf deinamig yng ngwleidyddiaeth Cymru – yn darparu prydau ysgol am ddim, gweithredu ar dai ac drwy’n cynghorau. Byddai Llafur heb ein Cytundeb Cydweithredu ar goll - mae'n hesb o syniadau.
Mae gennym ni 40 mis i fod yn blaid fwyaf yn y Senedd nesaf. Gyda’ch cymorth chi, byddaf yn bywiogi y blaid ar lawr gwlad ac yn cefnogi’r gwaith da sy’n cael ei wneud yn ein cymunedau, yn y cynghorau, yn San Steffan ac yn y Senedd.
Pleidleisiwch i mi a gadewch i ni wneud Plaid y blaid i Gymru gyfan.
Chris Franks - Cyfarwyddydd Cyfathrebu
Mae’n rhaid i ni ystyried prif rôl Cyfarwyddydd Cyfathrebu. Yn sicr nid yw’n golygu gweithredu fel swyddog y wasg neu’r cyfryngau. Mae gan y blaid staff cyfathrebu proffesiynol i gyfleu a lledaenu barn a pholisïau Plaid Cymru a’r Arweinyddiaeth.
Mae’n rhaid i Gyfarwyddydd Cyfathrebu sicrhau bod gan ein gweithwyr proffesiynol yr adnoddau angenrheidiol i ymgymryd â’u rolau. Mae’r swydd hon yn gofyn am berson:
- Sy’n berchen ar arbenigedd mewn cyfathrebu a thechnegau cyfryngau cymdeithasol.
- Sy’n ennyn ymddiriedaeth ac sy’n berchen ar wybodaeth drylwyr a dealltwriaeth o Blaid Cymru.
- Sy’n deyrngar i’r blaid yn gyffredinol ac sy’n ddibynadwy.
Strategaeth Gyfathrebu
- Mae angen cael cynllun ar draws y blaid gyfan yn cynnwys aelodaeth etholedig, cynghorwyr a’r aelodaeth ehangach. Rhaid cael cysondeb. Rhaid canfod y gynulleidfa darged; rhaid canfod sianeli a fydd yn cyflwyno ein neges i’n holl gymunedau.
- Mae strategaeth hollgynhwysfawr fewnol ac allanol yn hanfodol. Yn fewnol mae’n rhaid i ni gadw mewn cysylltiad â’r aelodau. Yn allanol rhaid i ni fedru rhoi gwybod i’r byd am ein polisiau, ein gwaith a’n dyheadau dros y Blaid.
- Mae ein hadnoddau yn gyfyngedig felly mae’n hollbwysig bod pob rhan o’r blaid yn gweithio i strategaeth y cytunwyd arni. Mae angen i ni ddangos undod yn ystod yr adegau anodd hyn. Mae’n rhaid i Gyfarwyddydd Cyfathrebu fedru ymdopi â stormydd gwleidyddol.
Rwyf wedi gweithio i’r blaid fel cynghorydd, Aelod Cynulliad ac ar hyn o bryd rwyf yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllor Ymgyrchu Cenedlaethol. Fel Ysgrifennydd y Gymdeithas Cynghorwyr bûm yn cynorthwyo yn y dasg o drefnu Cynhadledd Cynghorwyr lwyddiannus iawn yn Llanelwy y mis hwn. Mae cynhadledd debyg i’w chynnal yn Sir Gaerfyrddin ym mis Tachwedd.
Colin Nosworthy - Cyfarwyddydd Cyfathrebu
Mae gennyf ugain mlynedd o brofiad o weithio ym maes cyfathrebu, ac yn aelod o’r Blaid ers troad y ganrif hon.
Rwyf wedi gweithio yn y sectorau preifat, gwirfoddol a chyhoeddus mewn amryw o swyddi cyfathrebu a materion cyhoeddus. Am ddeng mlynedd, bûm yn gweithio fel Swyddog Cyfathrebu Cymdeithas yr Iaith, cyn symud ymlaen at swydd debyg o fewn addysg uwch.
Rwyf wedi dal nifer o swyddi gwirfoddol a chyflogedig yn y Blaid, gan weithio yn y Senedd i Leanne Wood, fel cynrychiolydd ar y Pwyllgor Gwaith a’r Pwyllgor Llywio yn ogystal â chyfnodau byr yn gweithio fel y Pennaeth Strategaeth yn Nhŷ Gwynfor ac yn Senedd San Steffan. Yn fwyaf diweddar, cwblheais secondiad byr fel Cynghorydd Arbennig yn Llywodraeth Cymru gan gefnogi tîm y Blaid wrth weithredu’r Cytundeb Cydweithio.
Rwy’n sosialydd ac, fel un o sylfaenwyr y mudiadau annibyniaeth YesCymru ac Undod, mae annibyniaeth yn gwbl ganolog i’m gwleidyddiaeth.
Mae gan Blaid Cymru dîm arbennig o swyddogion cyfathrebu cenedlaethol a lleol eisoes. Rydym yn ffodus i fod â chymaint o dalent yn ein rhengoedd. Camp pwy bynnag a gaiff eu hethol fel y Cyfarwyddwr Cyfathrebu yw cefnogi’r swyddogion hyn wrth iddynt sianelu eu hymdrechion lew mewn dull strategol ac effeithiol. Credaf y galla i wneud cyfraniad pwysig yn hyn o beth, gan ddefnyddio fy mhrofiad a’m gwerthoedd i symud yr achos cenedlaethol ymlaen.
Lisa Goodier - Cyfarwyddydd Cydraddolde
Fy enw i yw Lisa Goodier a hoffwn gynnig fy hun i barhau â rôl Cyfarwyddwr Cydraddoldeb gyda Phlaid Cymru.
Bydd y rhai sy’n fy adnabod yn ymwybodol o’m penderfyniad hirsefydlog i sicrhau tegwch a chyfiawnder i’n preswylwyr, yn enwedig i’r rhai sy’n cael bywyd yn anodd ac i’r rhai nad ydynt yn ystyried bod ganddynt ddewisiadau. Mae fy mhenderfyniad yr un mor gyfartal yn fy ngwaith ag ydyw yn fy ngweithgareddau personol.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi gweld llawer o heriau yr ydym yn eu hwynebu fel plaid wleidyddol. Isod mae amcanion y byddaf yn eu cyflawni o fewn y deuddeg mis nesaf (os yn llwyddiannus) i sicrhau ein bod mewn gwell sefyllfa fel plaid wleidyddol, o ran ein hamcanion a’n gweithgareddau strategol a gweithredol ac yng ngolwg ein trigolion a’n cefnogwyr yn y dyfodol:
- Byddaf yn gweithio gydag aelodau a thrigolion i gynhyrchu Polisi Cydraddoldeb ar gyfer Plaid Cymru, wedi'i gefnogi gan gynllun cyflawni cryf y bydd ein cynnydd yn cael ei fonitro, ei fesur a'i adrodd yn ei erbyn. Bydd y Polisi Cydraddoldeb yn gweithio ochr yn ochr ag unrhyw Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu y gall Plaid Cymru ei chynhyrchu.
- Byddaf yn sefydlu ac yn Cadeirio Cyfarfodydd Cydraddoldeb chwarterol ar gyfer Plaid Cymru, y gwahoddir aelodau i'w mynychu.
- Byddaf yn sicrhau, fel rhan o'n llywodraethu, bod pob polisi a nod gwleidyddol yn destun Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb.
- Byddaf yn parhau i roi cyngor ac arweiniad ar faterion sy'n ymwneud â chydraddoldeb a nodweddion gwarchodedig, fel yr wyf wedi'i wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Mae llawer iawn o waith i’w wneud i sicrhau bod Plaid Cymru ar flaen y gad o ran cydraddoldeb mewn gwleidyddiaeth a gallaf eich sicrhau i gyd o’m hymrwymiad i wneud i hyn ddigwydd.
Heledd Fychan - Cyfarwyddwr Polisi ac Addysg Wleidyddol
Mae ein polisïau yn greiddiol i ni fel plaid wleidyddol, ac yn ganolog i’n gweledigaeth ar gyfer Cymru annibynnol. Mae hynny’n golygu bod angen iddynt gynnig datrysiadau i’r heriau mae ein gwlad yn eu hwynebu – megis yr argyfwng costau byw a’r argyfwng hinsawdd – ac ysbrydoli pobl i’n cefnogi yn ogystal ag ymuno â’r blaid. Dylent adlewyrchu ein gwerthoedd, a bod yn seilwaith i’n gwaith ar bob lefel o lywodraeth.
Ond nid yw cael y polisïau gorau, na’r maniffesto gorau, yn ennill etholiadau os nad yw ein haelodau’n deall ein polisïau neu’n teimlo perchnogaeth ohonynt. Ni fyddwn chwaith yn ennill os nad yw mwyafrif y pleidleiswyr yn gwybod amdanynt.
Hoffwn newid hyn, drwy:
- Arwain adolygiad o'r holl bolisïau cyfredol, gan sicrhau bod ein blaenoriaethau ar gyfer pob maes polisi yn glir ac yn hawdd i’w deall.
Byddai hyn yn helpu i nodi bylchau, gwendidau a gwrth-ddweud mewn polisiau– ac felly'r meysydd sydd angen eu datblygu.
Byddwn yn cynnwys aelodau, cefnogwyr a chefnogwyr posibl yn y gwaith hwn drwy:
- Greu rhaglen addysg wleidyddol, a fyddai'n cefnogi canghennau ac etholaethau i gael trafodaethau ar sail polisi.
- Drefnu cyfarfodydd cyhoeddus ledled Cymru ar wahanol themâu polisi, fel y gall cefnogwyr a darpar gefnogwyr hefyd helpu i lunio’r gwaith hwn.
- Parhau i ymgysylltu â chymdeithas ddinesig ar ddatblygiad ein polisïau, tra hefyd yn sicrhau bod lleisiau a phrofiadau bywyd go-iawn grwpiau a dangynrychiolir ar hyn o bryd yn cael eu clywed ac yn helpu i lunio ein gweledigaeth ar gyfer Cymru annibynnol.
- Wneud ein hysgol haf flynyddol yn ddigwyddiad y mae'n rhaid ei fynychu, trwy weithio'n agos gyda staff Tŷ Gwynfor i ddatblygu rhaglen sy'n ysbrydoli ac yn ennyn diddordeb aelodau.
Byddwn hefyd yn gweithio'n agos gyda phob un o'n hadrannau - Plaid Ifanc, Plaid Pride, Cymdeithas y Cynghorwyr, Plaid BME, Merched Plaid ac Undeb - gan sicrhau bod eu gwaith yn siapio ein polisïau ac yn cefnogi eu rhaglenni addysg wleidyddol hwythau.
John Osmond - Cyfarwyddwr Polisi ac Addysg Wleidyddol
Amdanaf i
Yn dilyn gyrfa mewn newyddiaduraeth a theledu, bûm yn Gyfarwyddwr llawn amser cyntaf melin drafod polisi'r Sefydliad Materion Cymreig am 17 mlynedd.
Sefais dros y Blaid deirgwaith ym Mhreseli.
Fe ddeuthum yn Gynghorydd Polisi i'r Arweinydd yn 2018, a chefais fy ethol yn Gyfarwyddydd Polisi yng Nghynhadledd Abertawe yn 2019.
Record o gyflawni
Yn ystod 2019 fe wnes i oruchwylio’r gwaith o baratoi maniffestos ar gyfer etholiadau Senedd Ewrop a San Steffan.
Yn 2020 bu imi arwain y gwaith o gynhyrchu adroddiad Comisiwn Annibyniaeth y Blaid Cyrchu Annibyniaeth Cymru, a gyhoeddwyd gan Y Lolfa ac a gytunwyd yn ddemocrataidd gan ein Cynhadledd Arbennig ar gychwyn 2021.
Cydlynais y gwaith o greu’r Maniffesto ar gyfer etholiad Senedd Cymru 2021 – wedi’i naddu gan gydymdrechion a gallu ein mudiad. Yng ngeiriau Adam Price, hon oedd "y rhaglen fwyaf radical a thrawsnewidiol i gael ei chynnig gan unrhyw blaid mewn unrhyw etholiad Cymreig ers 1945".
Roeddwn yn rhan o dîm y Blaid a fu’n cefnogi negodi’r Cytundeb Cydweithio gyda’r blaid Lafur. Dechreuon nhw drwy geisio rhaglen dena o ddim mwy na 10 thema polisi. Yn ystod y trafodaethau, estynnwyd hyn i 46; gan arwain at raglen i adeiladu cenedl yn cynnwys blaenoriaethau Plaid Cymru’n bennaf
Mae gen i’r profiad o ddod â’ch blaenoriaethau polisi chi yn fyw.
Yn ystod 2022 neilltuais lawer o fy amser i baratoi tystiolaeth y Blaid i'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Cafodd y ddogfen hon, Y daith tuag annibyniaeth, oedd yn 20,000 gair o hyd, ei thrafod, ei mireinio a'i chytuno gan aelodau yn y Cyngor Cenedlaethol a'i chyflwyno i'r Comisiwn. Wrth ei chalon mae ymchwil a gomisiynwyd yn bwrpasol sy'n dangos na fydd Cymru ar ddod yn annibynnol yn cael ei chyfyngu gan "fwlch cyllidol" llethol, fel y cawn ein harwain i gredu yn aml iawn.
Yn ystod fy nghyfnod fel Cyfarwyddydd Polisi rydym wedi codi ein gêm wrth ddatblygu achos cryf dros annibyniaeth.
Gyda'ch cefnogaeth chi, fy mlaenoriaeth i am y flwyddyn i ddod fydd sefydlu rhaglen ymchwil newydd Dyfodol Cymru – polisïau i osod sylfeini ar gyfer dyfodol cynaliadwy, cyfartal, a chyfiawn i'n gwlad trwy annibyniaeth. Wrth wneud hynny, rydw i eisiau:
• Cynnal sylwedd a radicaliaeth ein gwaith polisi.
• Sicrhau ein bod yn cynnwys yr aelodaeth llawr gwlad hyd yn oed yn fwy yn ein gwaith datblygu polisi.
• Grymuso aelodau i gyfathrebu ac ymgyrchu ar ein cynnig polisi gobeithiol.
Beca Brown - Cynrychiolydd Rhanbarthol (Gogledd)
Aaron Wynne - Cynrychiolydd Rhanbarthol (Gogledd)
Kerry Ferguson - Cynrychiolydd Rhanbarthol (Canolbarth a’r Gorllewin)
Rwyf yn Gynghorydd Tref ac yn Ddirprwy Faer yn Aberystwyth, ac erbyn hyn wedi magu tân yn fy mol am wleidyddiaeth leol, i helpu trigolion ac adeiladu cymunedau. Rwy'n credu bod oes newydd i wleidyddiaeth ar y gorwel, ac y byddai fy sgiliau o adeiladu cymunedau a chyfathrebu o fudd mawr i'r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol.
Rwy'n byw yn Aberystwyth ers 15 mlynedd, gan symud yma o ogledd Cymru i astudio yn 2007. Rwy'n ystyried fy hun yn ddynes fusnes lwyddiannus ac yn weithredol iawn yn y gymuned leol. Mae gen i amryw o rolau o fewn y gymuned, ac rwy'n mynd at y rolau hyn gydag agwedd bositif a chynhyrchiol. Mae'r rolau hyn yn rhoi safbwynt unigryw i mi o’n etholwyr a'n plaid, ac rwyf yn dymuno cymhwyso'r profiad hwnnw i helpu'r Pwyllgor Gwaith. Mae fy swyddi cymunedol yn cynnwys Lywydd clwb Rotary lleol, cadeirydd clwb busnes a chyfarwyddwr ar bwrdd adfywio Aberystwyth sef Menter Aberystwyth.
Fy ymrwymiadau os caiff fy ethol:
- Defnyddio fy sgiliau marchnata digidol i hyrwyddo llif gwybodaeth gan y pwyllgor i aelodau ac y ffordd arall
- Defnyddio fy mhrofiad fel menyw busnes i nodi cyfleon effeithlonrwydd a hyrwyddo arferion da
- Cefnogi aelodau a changhennau llawr gwlad i gyfathrebu polisi Plaid Cymru ar bob lefel.
Dwi'n cynnig pâr ffres o lygaid. Dwi yma i ddysgu, ac i helpu'r parti. Mae Plaid Cymru ar hyn o bryd yn mwynhau momentwm mawr ledled Cymru, ac rwyf am fod yn rhan o lywio hynny i'r dyfodol, a sicrhau bod y momentwm yn parhau. Mae gennym lawer i'w ddathlu, a byddwn yn mwynhau'r cyfle i rannu syniadau newydd, ac i ddathlu'r llwyddiannau hynny.
Mae'r oes ddigidol wedi agor drysau newydd a dylem ymdrechu i fanteisio ar y cyfleoedd hynny.
Byddai'n anrhydedd mawr cael fy ethol, a gofynnaf am eich cefnogaeth.
Aled Morgan Hughes - Cynrychiolydd Rhanbarthol (Canolbarth a’r Gorllewin)
Canolbarth a Gorllewin Cymru yw canol fy mydysawd. Fe'm magwyd ym Mhowys, â theulu ym Meirionnydd. Astudiais yn Aberystwyth, gan fyw yng Ngheredigion am dros ddegawd – cyn bellach ymgartrefu yn Sir Gâr. Drwy gydol y cyfnod yno, mae’r Blaid wedi bod yn rhan annatod o fy mywyd, ac rwy’n falch o’r hyn rwyf wedi ei gyflawni a chyfrannu:
- ymgeisydd Cynulliad a San Steffan dros Faldwyn;
- aelod gweithgar o grŵp ymgyrchu Ceredigion ac is-asiant Senedd;
- cydlynydd etholiadau lleol ym Mhowys;
- ysgrifennydd etholaeth Ceredigion a Chadeirydd Cenedlaethol Plaid Ifanc.
Nid un am drafodaethau polisi dwys ydwyf, ond yn hytrach y gwaith caib a rhaw beunyddiol yno o godi placardiau, ysgrifennu taflenni a chnocio drysau - agweddau sydd oll mor greiddiol mewn ymgyrchu etholiadol ar lawr gwlad.
Os fy ethol, mae fy mlaenoriaeth yn syml - ymgyrchu, ymgyrchu, ymgyrchu. Rwy'n angerddol dros droi'r blaid yn beiriant etholiadol parhaol - nid yn unig am yr ychydig fisoedd cyn etholiad. Rhaid dysgu o lwyddiannau Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr - gan ymledu’r wal werdd i adennill Llanelli, ail-adeiladu ym Mhenfro, a pharhau i gamu tuag at Glawdd Offa ym Mhowys.
Byddaf yn pwyso am fuddsoddiad pwrpasol mewn trefnwyr lleol, gan adeiladu ar fy mhrofiadau i sicrhau gwell cefnogaeth i’n gwirfoddolwyr ymroddedig, ein hetholaethau ac adrannau. Gyda newid etholaethau San Steffan a’r Senedd ar y gweill, gallwn wynebu’r heriau trefniadol fwyaf nodedig ers tro - rhaid cefnogi ein hetholaethau a changhennau yn y cyfnod trawsnewidiol yma. Rwy’n parhau’n awyddus i fynd ati i ail-adeiladu pontydd lle’n briodol, gan hefyd ymdrechu ledled y rhanbarth i ddenu gwaed newydd, ifanc i’n plith.
Byddaf yn mynychu pwyllgorau etholaeth a phontio rhwng aelodau a’r Pwyllgor Gwaith - gan weithio gyda dibynadwyedd, brwdfrydedd ac agoredrwydd i sicrhau bod anghenion aelodau ar lawr gwlad wrth galon penderfyniadau a gweithgareddau’r Blaid.
Richard Pearce-Higginson - Cynrychiolydd Rhanbarthol (Canolbarth a’r Gorllewin)
Deris Williams - Cynrychiolydd Rhanbarthol (Canolbarth a’r Gorllewin)
Annwyl Aelodau,
Braint yw cynnig fy hun fel ymgeisydd i fod yn gynrychiolydd Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Rwyn aelod brwd a gweithgar o Blaid Cymru ac wedi bod yn aelod o Gyngor Cymuned Pontyberem ers 30 mlynedd a mwy! Dros y cyfnod hwnnw bu newid sylweddol ar lawr gwlad, yn ogystal ag yn wleidyddol ar lefel ein cymuned.
Rwyn Gadeirydd Plaid Cymru Etholaeth Llanelli ers pum mlynedd ac, er ein bod wedi wynebu heriau, llwyddais i lywio’r cyfan gan ddenu aelodau at ei gilydd i fwrw ati o fewn tre’r Sosban a Chwm Gwendraeth. Rwyn berson trefnus wrth reddf ac yn ceisio cadw strwythur clir a chadarn i’r Blaid o fewn yr etholaeth. Yn 2015 mi wnaeth Cangen Uwch Gwendraeth, lle rwyf yn aelod, dderbyn cydnabyddiaeth fel y Gangen a oedd wedi cynyddu niferoedd aelodaeth fwyaf. Ac yn 2019 mi dderbyniais Gwobr Cyfraniad Arbennig Plaid Cymru.
Cyn ymddeol yn gynnar bum yn gweithio ymysg cymunedau a phobl ac mae hynny yn allweddol i fy nghweledigaeth ar gyfer Plaid Cymru, sef datblygu pobl a’u cymunedau gan gofio ‘Nad oes neb yn llwyddo, heb y bobl’. Rwyn credu’n angerddol mewn rhoi llais i bobl ac, er mwyn llunio’r ffordd ymlaen, rhaid i Blaid Cymru wneud hynny. Rhaid gwneud yn siwr bod y Blaid yn datblygu sylfaen gadarn a hynny gyda phobl a dros bobl.
Mae fy mhlaenoriaethau’n glir, ac fel a ganlyn:
• Ein bod yn Blaid lawr gwlad – yn gynwysfawr ac yn adeiladu dros bobl Cymru.
• Cefnogi mudiadau gwirfoddol – er mwyn cryfhau cymunedau.
• Hyrwyddo cynaliadwyedd – yn ddiwylliannol, economaidd, cymdeithasol ac, wrth gwrs, yn amgylcheddol.
• Llunio polisiau clir ar sail llais yr aelodau – gan ymgysylltu’n reolaidd gyda chymunedau ynglyn â pholisiau
• Blaenoriaethu’n nodau ac amcanion – adnabod llwybrau i gyrraedd ein nodau.
• Gweinyddiaeth effeithiol.
Mawr hyderaf y gwnewch ymddiried ynof i ymgymryd â’r dasg hon. Ni allaf addo dim ond gwneud fy ngorau a gweithredu hyd eithaf fy nghallu.
Diolch am eich cefnogaeth a’ch cydweithrediad.
Andrew Jenkins - Cynrychiolydd Rhanbarthol – (De Orllewin)
Rwy'n byw yng Nghastell-nedd gyda fy mhartner a'n mab ifanc.
Ers mis Medi 2021, rwyf wedi gweithio fel uwch swyddog cyswllt cymunedol i Sioned Williams AS, a chyn hynny roeddwn i wedi gweithio fel Swyddog Polisi i Age Cymru, fel cynorthwyydd ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe ar brosiectau hawliau plant, ac roeddwn i'n gynghorydd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot rhwng 2012-2017. Yn ddiweddar ces i’r fraint o weithio fel cydlynydd lleol, gan gefnogi ein tîm gwych o ymgeiswyr a chynghorwyr a ddaeth â degawdau o reolaeth Llafur yng Nghastell-nedd Port Talbot i ben.
Rwy’n wirfoddolwr brwd yn fy nghymuned, yn casglu sbwriel yn rheolaidd gyda Chynghrair Cymunedol F.A.N ac yn gwasanaethu fel Cadeirydd Ymddiriedolaeth Gymunedol Melin. Drwy fy ngweithredu lleol galla i weld y gwahaniaeth y mae llawer o’n haelodau eisoes yn ei wneud, a’r gwahaniaeth gwirioneddol y gallai ein plaid ei wneud pe byddai’n cael ei chydgysylltu a’i chefnogi’n briodol.
Os caf fy ethol, rwy'n addo;
- Ymgysylltu’n rheolaidd ag aelodau a chefnogwyr ein plaid, gan anfon adroddiadau i bob cangen a chylchlythyrau i'r holl aelodau. Bydda i'n gwrando ar eich blaenoriaethau a bydda i'n llais i chi ar y Pwyllgor Gwaith.
- Cefnogi ein hetholaethau a’n canghennau yn eu hymdrechion i fod yn fwy rhagweithiol, ymgysylltu ac ymwreiddio o fewn cymunedau ar draws y rhanbarth, gan arwain ar ymgyrchoedd a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.
- Cefnogi ein haelodau etholedig, ein hymgeiswyr a’n hyrwyddwyr cymunedol i sicrhau ein bod yn cynyddu’r nifer o gynrychiolwyr etholedig Plaid Cymru ym mhob cymuned yn ein rhanbarth.
Mae ein plaid yn fwy na galluog i ennill, ond mae angen i ni wrando ar ein haelodau a bod yn fwy cynhwysol, ac mae angen i ni arwain y ffordd wrth adeiladu’r Gymru yr ydym am ei gweld – un gymuned ar y tro.
Megan Lloyd - Cynrychiolydd Rhanbarthol – (De Orllewin)
Harri Roberts - Cynrychiolydd Rhanbarthol – (De Orllewin)
Deiliad Presennol y Swydd; Aelod o’r Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Aelodaeth, Disgyblu a Safonau.
Profiad health fel ymgeisydd Senedd, Seneddol a Chyngor.
Bu’n bleser bod yn Gydlynydd Rhanbarth dros y dair blyneth diwethaf.
Fy mwriad yw cario ymlaen gyda’r gwaith pwysig o ddatblygu’r Etholaeth drwy:
• Gefnogi’r ddau Aelod Senedd
• Gynnal cyfarfodydd Rhanbarthol gyda siaradwyr gwâdd
• Sicrhau cryfhad yr etholaethau – yn enwedig y rhai gwannaf
• Cefnogi a hybu undod yn Abertawe i ddatblygu ymgais glew ar y Cyngor y tro nesaf
• Hwyluso’r newidiadau a fydd yn dod yn sgil y ffiniau newydd.
Erfynnaf am eich cefnogaeth drwy bleidleisio drosof.
Ioan Gruffydd Warlow - Cynrychiolydd Rhanbarthol – (De Orllewin)
Alun Cox - Cynrychiolydd Rhanbarthol (Canol De)
Julie Williams - Cynrychiolydd Rhanbarthol (Canol De)
Rhys Mills - Cynrychiolydd Rhanbarthol (De Ddwyrain)
Niamh Salkeld - Cynrychiolydd Rhanbarthol (De Ddwyrain)
Ioan Bellin - Pwyllgor Llywio
Rwy’n falch iawn o gael fy enwebu gan etholaethau Pontypridd a Llanelli ar gyfer rôl ar y pwyllgor llywio.
Ymrwymiad
Pan ymunais â Phlaid Cymru yn un ar bymtheg oed yn 1990 ychydig feddyliais bryd hynny y byddwn yn gweithio yn ein Senedd. Rwyf wedi bod yn weithgar ym mhob rhanbarth o Gymru wrth sefyll ar gyfer etholiadau cyngor, San Steffan, Senedd ac Ewrop.
Rwyf wedi gweithio tu ôl i’r llenni i’n haelodau etholedig ers 2004 ac wedi bod yn ymgeisydd sawl gwaith, gan gynnwys yn etholiad Ewrop 2019 – yr unig dro i ni guro Llafur mewn etholiad cenedlaethol.
Profiad
Rwy'n gyn-newyddiadurwr a darlledwr. Rwyf wedi dal cyfrifoldebau fel Cadeirydd y Mudiad Ieuenctid, Cadeirydd Etholaeth Pontypridd ac ar hyn o bryd rwy’n ysgrifennydd fy nghangen leol. Rwyf wedi bod yn aelod o’r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol ac wedi bod yn rhan o’r tîm ar y Pwyllgor Llywio bedair gwaith, a etholwyd yn fwyaf diweddar yn 2019 yn ein cynhadledd flynyddol yn Abertawe.
Brwdfrydedd
Mae gennyf y brwdfrydedd o hyd dros botensial ein cenedl a’n plaid. Rwyf am wneud popeth o fewn fy ngallu yn y rôl hon i sicrhau bod ein cynadleddau mor llwyddiannus â phosibl. Wrth i ni baratoi ar gyfer ein cynhadledd sy’n dathlu 100 mlynedd o fodolaeth fel plaid yn 2025 – rwyf am gyfrannu at y dathliadau dros y blynyddoedd nesaf.
Pleidleisiwch Ioan – Rhif 1 am ymrwymiad, profiad a brwdfrydedd ar y pwyllgor llywio.
June James - Pwyllgor Llywio
Elyn Stephens - Pwyllgor Llywio
Siȃn Thomas - Pwyllgor Llywio
O edrych ar fy rhestr o waith rwy wedi gwneud dros y Blaid sef:
Aelod ers y 60au wedi gweld Tryweryn yn cael ei boddi; cyn aelod o’r Pwyllgor Gwaith; cyn Gadeirydd Cymdeithas y Cynghorwyr, Etholaeth, Cangen, a Grwp y Cyngor Sir; cyn Drysorydd y Grwp Merched; Ysgrifennydd presennol o’m Etholaeth a Changen; Cynghorydd Sir am dros deunaw mlynedd; Cynghorydd Cymuned ers dros chwarter canrif; Golygydd y cylchgrawn CYNGOR; a rhedeg stondin y Cynghorwyr ymhob Cynhadledd ers degawdau.
Yr hyn ddaw i feddwl yw ‘hen’ efallai. Ond gyda’r ehangder yma mae hefyd yn golygu profiad. A gyda’r profiad yma daw y wybodaeth o beth sy’n gweithio beth sydd ddim. Lle mae angen ail feddwl, adfywiad, a beth sydd rhaid anghofio. Daw hyn a’r gallu i lywio ein cynhadleddau i lwyddiannau, ac i lywio y Blaid tuag at ein prif nod – Annibyniaeth i Gymru.
Ac o’i hennill yr hyn sydd angen yw cariad at Gymru ei diwylliant a’i phobl, ac o wneud hyn dangos goddefgarwch a maddeuant at bawb.
Gadewch i mi barhau ar y Pwyllgor Llywio. Rhowch bleidlais i brofiad a dwylo diogel. Diolch.
Amserlen yr Etholiad
Terfynau amser |
Dyddiad |
Enwebiadau yn Agor |
Mercher 18 Mai 2022 |
Enwebiadau yn Cau |
Gwener 29 Gorffennaf 2022 – Canol dydd |
Cyhoeddi’r Ymgeiswyr a Enwebwyd |
Llun 1 Awst 2022 |
Rhewi’r Rhestr Etholwyr (y mae’n rhaid i unigolyn fod yn aelod o Blaid Cymru erbyn y dyddiad hwn er mwyn pleidleisio) |
Gwener 23 Medi 2022 – Canol dydd |
Pleidleisio |
Gwener 21 Hydref 2022 a Sadwrn 22 Hydref 2022 yn y Gynhadledd. (Amseroedd i’w pennu gan Bwyllgor Llywio’r Gynhadledd) |
Cyhoeddi’r Canlyniadau |
Sadwrn 22 Hydref (Ar amser i’w bennu gan Bwyllgor Llywio’r Gynhadledd) |
Swyddog Dynodedig: Carl Harris – Prif Weithredwr