Etholiadau Mewnol 2023

Etholiadau i'r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol a'r Pwyllgor Llywio

Mae'r ymgeiswyr canlynol wedi'u henwebu i'w hethol i'r swyddi a nodir. Gallwch glicio ar enw'r ymgeiswyr sydd wedi darparu maniffesto byr.

Bydd yr etholiad yn un hybrid, lle bydd aelodau Plaid Cymru yn gallu cofrestru i bleidleisio drwy wylio’r hystings ar Zoom ac yna pleidleisio ar-lein, neu drwy bleidlais bapur drwy fynychu’r Gynhadledd.

Cliciwch yma i neidio i amserlen yr etholiad ar waelod y dudalen.


Ymgeiswyr

Trysorydd

Cyfarwyddydd Trefniadaeth, Hyfforddiant a Datblygu

Cyfarwyddydd Etholiadau ac Ymgyrchoedd

Cyfarwyddydd Codi Arian

Cyfarwyddydd Materion Rhyngwladol

  • Jill Evans
  • Ail-agor enwebiadau / Re-open Nominations

Cadeirydd y Pwyllgor Llywio

Aelod o'r Pwyllgor Llywio

  • Dewi Jones
  • Ail-agor enwebiadau / Re-open Nominations

Marc Phillips

Trysorydd

Mae’n gyfnod heriol o ran rheolaeth y Blaid wrth i ni orfod ad-drefnu unedau cyfrifo tra’n paratoi at Etholiad Cyffredinol – a hynny o fewn sefyllfa economaidd trychinebus o wael sydd yn effeithio’n drwm ar ein cefnogwyr.

Mae gwaith y Trysorydd yn galw am uno strategaeth ariannol ag amcanion gwleidyddol y Blaid fel bod un yn hwyluso’r llall. Ni all y Blaid weithredu – yn gyfreithlon nac yn effeithiol - heb sicrhau rheolaeth dros ei hadnoddau a chywirdeb o ran cydymffurfiaeth.

Dros y blynyddoedd diwethaf, gyda chymorth staff o’r safon uchaf, rydw i wedi ceisio sicrhau safonau proffesiynol, ac rwyf yn falch ein bod wedi cychwyn ar sefydlu cronfa benodedig sylweddol ar gyfer ymladd etholiadau.

Mae gen gyfuniad o brofiad gwleidyddol ynghyd â blynyddoedd fel uwch reolwr mewn cyrff cyhoeddus ac elusennol ac mae’n bleser gen i ofyn am eich cefnogaeth i barhau i ddefnyddio’r profiad hwn fel Trysorydd Cenedlaethol Plaid Cymru am dymor arall.

[i'r rhestr ymgeiswyr]


Carole Willis

Cyfarwyddydd Trefniadaeth, Hyfforddiant a Datblygu

Rwyf wedi bod yn Gyfarwyddydd Trefniadaeth, Aelodaeth a Hyfforddiant ers tua 6 mlynedd ac wedi gweithio’n agos gyda chyd-aelodau o’r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol ac aelodau o staff i geisio gwella a chynnal trefniadaeth a strategaeth aelodaeth y blaid.

Ar hyn o bryd rwy’n cadeirio Gweithgor Trefniadaeth y blaid sy’n goruchwylio’r trawsnewid i etholaethau newydd wrth baratoi ar gyfer etholiadau cyffredinol San Steffan a’r Senedd. Rwyf hefyd yn cadeirio’r Pwyllgor Cyswllt Staff ac rwy’n aelod o’r pwyllgorau Personél, Cyllid, ARAC a strategaeth aelodaeth.

Os caf fy ethol byddai’n fraint parhau gyda’r gwaith hwn am ddwy flynedd arall.

[i'r rhestr ymgeiswyr]


Cai Larsen

Cyfarwyddydd Etholiadau ac Ymgyrchoedd

Gofynnaf yn garedig am eich pleidlais yn etholiad fewnol y Blaid i ddewis Cyfarwyddydd Etholiadau.

Rwyf wedi cyflawni’r rôl am gyfnod o rai blynyddoedd, a chredaf i mi wneud hynny yn effeithiol a chydwybodol. Chwaraeais ran llawn yng ngweithgareddau’r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol gan fynychu cyfarfodydd a chynhyrchu adroddiadau yn rheolaidd.

Gwasanaethais ar rai o is bwyllgorau’r PGC, gan gynnwys Pwyllgor Trefniadaeth, Pwyllgor Safonau, Pwyllgor Diwygio’r Senedd, Grŵp Ffiniau San Steffan a rwy’n cadeirio’r Pwyllgor Ymgyrch Cenedlaethol.

Chwaraeais ran blaenllaw yn y broses o gynhyrchu nifer o ddarnau o waith – amlinellaf dair enghraifft ddiweddar isod:

  1. Adroddiad ar dan berfformiad yn un rhan o’r wlad yn etholiadau lleol 2022
  2. Adroddiad yn asesu manteision ac anfanteision cyd weithio efo’r Blaid Werdd.
  3. Darn o waith ar ddiwygio’r ffordd mae’r Gofrestr Ymgeiswyr yn cael ei rhedeg a’i gweinyddu.

Byddaf hefyd yn paratoi dadansoddiadau ystadegol o etholiadau ar raddfa leol a chenedlaethol yn rheolaidd er mwyn cynorthwyo timau ymgyrchu i baratoi ar gyfer etholiadau.

Credaf i mi chwarae rhan gadarnhaol ym mywyd y Blaid yn genedlaethol ac i mi fod o gymorth i’r Blaid resymoli ei phrosesau mewnol a’i dulliau ymgyrchu.

Byddwn hynod ddiolchgar am y cyfle i barhau i wneud hynny wrth i’r Blaid baratoi am yr etholiadau tyngedfennol sy’n ei hwynebu yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf.

[i'r rhestr ymgeiswyr]


Dai Thomas

Cyfarwyddydd Etholiadau ac Ymgyrchoedd

Dydy canlyniadau diweddar y Blaid ddim yn dda. Yn etholiadau’r DU roedd y bleidlais yn 2019 yr isaf ers 1987 wedi lleihau’n gyson ers 2001.

Tra’n y Senedd mae gennym ddau aelod llai nac 2007.

Yn 2022 etholwyd 6 llai o gynghorwyr sir na 2017.

Cymharwch a Sir Gar, lle fi sydd wedi bod wrthi’n trefnu etholiadau ers 2010 pryd roedd 30 cynghorydd Sir nawr 38. 23000 pleidlais yn 2008, 37500 yn 2022, gyda'r Blaid yn ennill mwyafrif clir yn Sir Gar, y cyntaf gan unrhyw blaid.

Enillodd y Blaid 4 etholiad olynol, gyda’r un ymgeisydd, y tro cyntaf ers 1628.

Enillwyd yn 2010, 2015, 2017, 2019 gyda fi fel asiant/trefnydd.

Ers 2010 fe drefnais ac enillais dros 20 etholiad, cynghorau, Cymuned, Tref, Sir, Senedd, San Steffan, Comisynydd a refferenda.

Sut wnaethom cystal? Drwy ganolbwyntio ar yr hyn sydd o bwys i bawb, nid dim ond lleiafrifoedd.

[i'r rhestr ymgeiswyr]


Carrie Harper

Cyfarwyddydd Codi Arian

Wedi fy ethol yn Gynghorydd Sir Plaid Cymru yn Wrecsam am y tro cyntaf yn 2008, rwyf wedi ymrwymo i adeiladu ein plaid ledled Cymru, ac mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn tyfu ein hymdrechion codi arian ar draws ystod o fentrau. Felly, rwy'n sefyll i gael fy ailethol yn Gyfarwyddydd Codi Arian er mwyn parhau i ddatblygu ein strategaeth codi arian wrth inni edrych tuag at etholiadau nesaf San Steffan a'r Senedd.

Mae'n hanfodol ein bod yn beiriant ymgyrchu effeithiol ac wrth gwrs mae hynny'n costio arian! Mae angen inni fod yn rhagweithiol ar bob lefel o’r blaid i sicrhau llwyddiant ac i ddod â’r adnoddau angenrheidiol i mewn.

Os oes gennych chi syniadau, profiad neu arbenigedd yn y maes hwn, byddwn wrth fy modd yn clywed gennych. Rwyf wedi dysgu o fy mhrofiad ymgyrchu nad oes gan un person fonopoli ar syniadau da, ac mai ymdrech tîm bob amser yw'r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau llwyddiant - felly mae croeso i chi gysylltu â ni.

Email - [email protected]
FB - CarrieWrecsam
Instagram - CarriePlaid
Twitter - @CarrieAHarper
TikTok - @carrieplaid
Phone - 07484 841 407

[i'r rhestr ymgeiswyr]


Jill Evans

Cyfarwyddydd Materion Rhyngwladol

Rwyf wedi cynrychioli Plaid Cymru ar Gynghrair Rydd Ewrop (EFA) ers blynyddoedd maith ac ar hyn o bryd yn Is-Lywydd ac aelod o Fiwro EFA. Rwyf yn aelod gweithgar o Fforwm Menywod EFA.

Roeddwn yn Aelod Plaid Cymru o Senedd Ewrop o 1999 tan 2000 pan adawodd y DGyr Undeb Ewropeaidd. Am bum mlynedd roeddwn yn Llywydd Grwp EFA yn Senedd Ewrop a Phrif Is-Lywydd Grwp Gwyrddion/EFA. Yn 2021 derbyniais wobr Coppieters ar gyfer fy ngwaith ar heddwch, hawliau lleiafrifoedd, amrywiaeth ieithyddol a hunan-lywodraeth ar lefel Ewrop.

Roeddwn yn Gadeirydd CND Cymru ar gyfer y pum mlynedd diwethaf ac yn un o sefydlwyr ac ar fwrdd Academi Heddwch Cymru.

Rwyf yn gofyn yn garedig am eich cefnogaeth i barhau i adeiladu ein cysylltiadau cryf gyda EFA a chryfhau llais Plaid Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.

[i'r rhestr ymgeiswyr]


Chris Franks

Cadeirydd y Pwyllgor Llywio

Mae’r Pwyllgor Llywio yn chwarae rhan bwysig yn rheolaeth plaid mae’n gorfod gweithio ynddo mewn modd sy’n cynrychioli barn a diddordebau yr holl aelodaeth.

Rhaid i’r Pwyllgor Llywio sicrhau bod gan bob aelod y cyfle i ddylanwadu ar bolisïau a strategaeth y blaid.

Bydd Cadeirydd Llywio hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol. Felly mae y rôl yn cynnwys sicrhau bod cyllid y blaid yn ddiogel a bod ei rheolaeth o safon uchel.

Mae’r PGC hefyd yn gyfrifol am weithredu ‘Prosiect Pawb’ mewn modd cyfiawn a gweddus.

Rhaid i’r PGC rhoi eu cefnogaeth llwyr i arweinyddiaeth y Blaid. Wrth i ni gychwyn paratoi at etholiadau San Steffan, rhaid i ni fod yn hollol ymroddedig i hyrwyddo ein cyfleoedd etholiadol.

Mae gennyf y profiad ac yn ysgrifennydd y Gymdeithas Cynghorwyr ar hyn o bryd.

Credaf fy mod yn medru cyflawni gofynion y swydd ac yn eich gwahodd yn barchus i’m cefnogi.

[i'r rhestr ymgeiswyr]


Elin T Jones

Cadeirydd y Pwyllgor Llywio

Rwyf wedi Cadeirio'r Pwyllgor Llywio am y 2 flynedd diwethaf. Yn y cyfnod hwn, rydym wedi cynnal ein cynhadledd gyntaf ar ôl y cyfyngiad Covid, ac wedi ailstrwythuro'r Gynhadledd i ganiatáu mwy o ymgom gydag aelodau. Rwyf hefyd wedi ceisio gwneud pethau'n fwy rhyngweithiol ac ymgysylltu â'r gymuned y tu allan i leoliadau'r gynhadledd. Rwyf hefyd wedi cyflwyno ystafell dawel ar gyfer y rhai sy'n gweld cynhadledd yn or-gynhyrfiol, gan fod gennyf ymroddiad i wneud y gynhadledd mor hygyrch â phosibl.

Os caf fy ailethol i barhau, hoffwn ymchwilio i ddarparu cymorth iaith arwyddo a dod yn hybrid. Rwyf wedi bod yn gadeirydd etholaeth Ceredigion am y 3 blynedd diwethaf ac wedi ymddiswyddo yn ddiweddar er mwyn canolbwyntio fy holl egni ar y pwyllgor llywio. Yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf rwyf wedi gweithio o fewn y Pwyllgor Gwaith ac rwyf am barhau â'r gwaith hanfodol hwn.

Pleidleisiwch i mi barhau â'm gwaith fel cadeirydd y pwyllgor llywio. Diolch.

[i'r rhestr ymgeiswyr]


Amserlen yr Etholiad

Terfynau amser

Dyddiad

Enwebiadau yn Cau

Dydd Gwener, 21 Gorffennaf 2023

Rhewi’r Rhestr Etholwyr

(y mae’n rhaid i unigolyn fod yn aelod o Blaid Cymru erbyn y dyddiad hwn er mwyn pleidleisio)

Canol dydd, Dydd Mawrth, 5 Medi 2023

Pleidleisio

Dyddiau Gwener a Sadwrn, 6 a 7 Hydref 2023

(Amseroedd i’w pennu gan Bwyllgor Llywio’r Gynhadledd)

Cyhoeddi’r Canlyniadau

Dydd Sadwrn, 7 Hydref 2023

(Amser i’w bennu gan Bwyllgor Llywio’r Gynhadledd)

[i'r brig]


Swyddog Dynodedig:

Owen Roberts
Prif Weithredwr Plaid Cymru

[email protected]