Ewrop

Mae Plaid Cymru yn aelod o Gynghrair Rydd Ewrop (EFA).  Mae EFA yn gasgliad o bleidiau gwleidyddol ar draws Ewrop sydd yn brwydro dros hunan-benderfyniad.  Maen nhw’n ymgyrchu oddi mewn ac allan i Senedd Ewrop dros hawliau cenhedloedd diwladwriaeth.  Mae Aelod Seneddol Ewrop Plaid Cymru, Jill Evans, yn eistedd fel aelod o grŵp EFA yn Senedd Ewrop.  Ar ôl Brexit bydd Plaid Cymru yn gadael grŵp EFA ond fe fydd y berthynas ag EFA tu allan i Senedd Ewrop yn parhau.

 

Isod ceir datganiad o raglan wleidyddol EFA.

 

  1. Hunan-benderfyniad
  2. Ewrop dros holl bobloedd
  3. Heddwch a rhyddid i Ewrop
  4. Adeiliadu byd cynhaliol
  5. Cyfiawnder ieithyddol
  6. Hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd
  7. Cyfiawnder cymdeithasol: adfer urddas a chydraddoldeb
  8. Mae holl bobloedd yn penderfynu
  9. Dros gydsafiad â phobloedd
  10. Ieuenctid

 

Er mwyn darllen ymhellach am EFA ac i weld manylion y rhaglen wleidyddol ewch i wefan EFA drwy glicio yma

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.