Rhaid penderfynu ar gyllid teg i ffermydd trwy agwedd pedair cenedl, medd Plaid Cymru

31283979918_620337a777_o.jpg

Mae AS Ceredigion a llefarydd Plaid Cymru ar Defra Ben Lake wedi galw am systemau newydd i sicrhau fod gan Gymru lais ar gyllido ffermydd wedi Brexit. Gwnaeth AS Ceredigion yr alwad yn ystod Ail Ddarlleniad Mesur Amaethyddiaeth San Steffan.

Er bod polisi amaeth i raddau helaeth yn fater i Lywodraeth Cymru, penderfynir ar lefel gyffredinol taliadau ffermydd yn San Steffan. Galwodd Mr Lake am i lywodraethau’r pedair gwlad fod â rôl mewn penderfynu ar gyllido taliadau ffermydd.

Beirniadwyd y Mesur hefyd am ddwyn pwerau datganoledig ymaith oedid wrth Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon a’u canoli yn San Steffan.

Heddiw, pasiodd y Mesur Amaethyddiaeth ei Ail Ddarlleniad yn Nhŷ’r Cyffredin, ar waethaf gwrthwynebiad.

Mewn sylw wedi i’r Mesur gael ei basio, dywedodd Ben Lake AS:

“Does dim modd gorbwysleisio pwysigrwydd amaethyddiaeth i gynnal gwead bywyd gwledig yng Nghymru. Ac eto, y mae Gweinidogion yn parhau i anwybyddu pryderon ffermwyr Cymru, sydd wedi eu dal rhwng Llywodraeth ddi-glem yng Nghaerdydd ac un anwybodus yn San Steffan.

“Pan ddaw’n fater o ddyfodol cyllido taliadau ffermydd, does gennym ni ddim syniad beth fydd y broses, pa ran y bydd y llywodraethau datganoledig yn chwarae, sut y bydd anghydfod yn cael ei ddatrys.

“Dim ond os datblygir fframweithiau ariannol ar y cyd gan y pedair gwlad y byddant yn gynaliadwy, ac yn adlewyrchu anghenion pob cenedl.

“Mae datganoli yn golygu amrywiaeth. Mae anghenion gwahanol yn golygu polisiau gwahanol. Gwyddom eisoes, o ran taliadau uniongyrchol yn unig, y gall yr Alban a Gogledd Iwerddon wahaniaethu yn sylweddol o drefn Cymru a Lloegr. Mae’n amlwg fod angen mecanwaith i sichrau bod cysoni gwahaniaethau’r a phroblemau’r farchnad yn digwydd. Rwy’n siomedig fod llywodraethau Cymru a San Steffan yn gwrthod cydnabod y broblem amlwg hon.

“Dylai pob cenedl benderfynu ar eu polisi amaethyddol eu hunain, ond gallai corff rhyng-lywodraethol ymdrin ag unrhyw fater sy’n achosi anghydbwyedd yn y farchnad neu roi mantais annheg i un wlad dros y llall. Dyw’r strwythurau presennol ddim yn addas at y diben hwn.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.