Tegwch i ffermwyr mewn Credyd Cynhwysol
Mae’r symudiad o Gredydau Treth Gweithio i Gredyd Cynhwysol yn effeithio ar deuluoedd ffermio, pobl hunangyflogedig, a gweithwyr tymhorol.
Y rheswm am hyn yw bod yr hawl i Gredyd Cynhwysol yn cael ei asesu ar sail incwm misol yn hytrach na blynyddol, gydag isafswm gwaelod incwm, sy’n golygu fod pobl yn colli cefnogaeth hanfodol.
Bydd Plaid Cymru yn cefnogi defnyddio dulliau eraill o weithio allan yr hawl, gan gynnwys incwm blynyddol, er mwyn gwneud yn siwr fod pawb yn cael eu trin yn deg.