Fferyllfeydd Cymunedol
Mae Plaid Cymru yn cefnogi ein fferyllfeydd bychain cymunedol. Gwaetha’r modd, mae pris meddyginiaeth a’r gadwyn gyflenwi yn peryglu eu gallu i ddarparu gwasanaethau lleol hanfodol. Buasem ni yn cefnogi newid yn y ddeddfwriaeth ar dariffau cyffuriau sydd wedi cynyddu prisiau, ac adolygiad i’r gadwyn gyflenwi, er mwyn gwneud yn siwr fod cleifion yn cael y feddyginiaeth y mae arnynt ei hangen, pan fydd ei angen.