Gweithred gyntaf y Prif Weindiog - ymddiheuro am roi grym Cymru i ffwrdd

131218.jpg

Mae penderfyniad Mark Drakeford i ddiddymu Deddf Parhad Cymru wedi methu mewn modd trychinebus, wrth i’r newyddion dorri bod y ddeddfwriaeth Albanaidd wedi ennill cefnogaeth y Goruchaf Lys.

Pan wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol herio’r ddeddfwriaeth Gymreig ac Albanaidd, fe wnaeth Llywodraeth  Lafur Cymru ildio a chytuno cytundeb dros Brexit tra gwnaeth Llywodraeth SNP yr Alban gloddio mewn gan fyndati i amddiffyn eu hawliau cyfansoddiadol yn y Goruchaf Lys.

Gambl y Prif Weindiog Mr Drakeford fel y gweinidog â chyfrifoldeb dros Brexit ar y pryd  byddai’r Mesur Parhad Albanaidd yn cael ei  drechu yn y Goruchaf Lys gan adael yr Alban heb ddeddfwriaeth amddiffynnol na chytundeb rhynglywodraethol gyda Llywodraeth y DG.

 Yna aeth ati’n wirfoddol i ddiddymu Deddf Parhad Cymru, er nad oedd rheidrwydd cyfreithiol arno i wneud cyn i’r Goruchaf Lys gyhoeddi ei benderfyniad. Pe bai e wedi aros byddai Cymru yn awr yn darganfod ei hun mewnsefyllfa gyfansoddiadol gref. 

Cafodd deddfwriaeth Parhad eu cyflwyno yng Nghymru a’r Alban er mwyn corffori rheolau a rheoliadau UE mewn cyfraith Gymreig ac Albanaidd, fyddai wedi atal y llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan rhag deddfu mewn meysydd datganoledig.

 Gan ymateb i benderfyniad y Goruchaf Lys, meddai arweinydd Plaid Cymru Adam Price,

 “Gweithred gyntaf y prif weindiog newydd hwn fydd i ymddiheuro am ildio grym Cymru i anrhefn llywodraeth San Steffan.

“Roedd holl ddadl Mark Drakeford dros ddiddymu Deddf Parhad Cymru wedi ei selio ar ei gred y byddai Llywodraeth yr Alban yn colli’r achos Goruchaf Lys dros eu mesur cyfatebol nhw. Dywedodd na fyddai gan yr Alban ddim petai nhw’n colli, tra byddai gan Gymru ei chytundeb pitw gyda Llywodraeth y DG.

“Mae gambl Drakeford wedi methu mewn modd trychinebus. Fe enillodd yr Alban sydd yn golygu bod eu pwerau nhw â gwarchodaeth gyfreithiol. Cymru sydd felly yn canfod ei hun heb ddim heblaw cytundeb gwael sydd yn rhoi pwerau Cymru i ffwrdd i weinidogion Torïaidd heb unrhyw warant y cawn ni nhw yn ôl.

“Yr hyn sy’n gwneud y sefyllfa’n waeth yw nad oedd anghenraid i ddiddymu Deddf Parhad Cymru cyn cyhoeddiad heddiw. Fe ildiodd rhy gynnar yn sgil ymostyngiadrwydd annealladwy i San Steffan, gan adael Cymru i dalu’r pris.

“Mae gweithredoedd Llafur wedi gadael Cymru ar drugaredd llywodraeth Dorïaidd wallgo San Steffan. Mae hyn yn profi mai dim ond Llywodraeth Cymru dan arweiniad Plaid Cymru all pobl ymddiried ynddi i gynrychioli eu buddiannau.”

“Cred Plaid Cymru y dylid cynnal uwchgynhadledd o’r cenhedloedd mor fuan a phosibl er mwyn rhoi hunan-lywodraeth lawn i wledydd y Deyrnas Gyfunol a sicrhau nad yw Brexit yn cael ei ddefnyddio i roi grymoedd gwledydd i fwrdd yn erbyn eu hewyllys.

“Rwy’n llongyfarch Llywodraeth yr Alban ar eu buddugoliaeth yn y Goruchaf Lys. Mae cyfiawnder cyfansoddiadol wedi gorfu.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.