Arweinydd Plaid Cymru yn beirniadu rheoliadau’r Gymraeg mewn iechyd yn “eilradd”

ap.png

Pobl sydd yn dymuno derbyn darpariaeth iechyd drwy’r Gymraeg dan anfantais yn ol Adam Price

Mae’r rheoliadau newydd ar y defnydd o'r iaith Gymraeg mewn gofal iechyd yn ddiffygiol ac yn golygu fod dinasyddion Cymru sydd yn dymuno derbyn darpariaeth iechyd drwy’r Gymraeg yn parhau i fod dan anfantais, yn ôl Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.

Wrth herio’r Prif Weindiog yn y Siambr y prynhawn yma, dywedodd Mr Price fod y rheoliadau a gyflwynwyd yn ddiweddar gan y Lywodraeth Llafur prin yn gwneud unrhyw gynnydd o ran sicrhau fod gan bobl fynediad at wasanaethau iechyd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dywedodd fod y bobl hynny – gan gynnwys ei Dad wyth deg pedwar oed yn cael eu trin fel ‘dinasyddion eilradd’ am nad oedd modd iddynt gael gwasanaeth yn eu iaith o ddewis.

Ddoe, dywedodd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu mewn adroddiad na allent gefnogi’r rheolau newydd am na chafwyd digon o amser i'w craffu gan fynd ymlaen i ddweud fod methiant Llywodraeth Cymru i ganiatáu digon o amser yn "fethiant difrifol".

Meddai Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price,

“Mae gen i hawl i ofyn cwestiwn i chi yn Gymraeg yn y Senedd hon, ond does gan fy nhad wyth deg pedwar oed ddim hawl i ofyn cwestiwn yn Gymraeg i’w feddyg ma’i optegydd, ei fferyllydd na’i ddeintydd.

“Bum mlynedd yn ol fe ddywedoch chi taw gwraidd yr achos “dros wella’r defnydd o’r Gymraeg mewn gofal sylfaenol” yw’r posibilirwydd “mai dim ond yn eu hiaith gyntaf y gall cleifion agored i niwed fynegi eu hunain yn llawn.”

“Heddiw mae Pwyllgor trawsbleidiol y Senedd wedi dweud taw “ychydig iawn o gynnydd, os o gwbl” mae’r rheoliadau y’ch chi newydd eu cyhoeddi yn ei wneud o ran rhoi’r hawl i bobl yng Nghymru dderbyn gwasanaethau iechyd yn eu dewis iaith.

“Pam am ar ol wyth deg pedwar o flynyddoedd mae fy nhad yn cael ei  drin fel dinasydd eilradd?”

Yn ei ateb ni gyfeiriodd y Prif Weindiog at y rheoliadau. Soniodd am y gwaith sy’n digwydd mewn ysbytai o ran sicrhau bod staff meddygol sy’n medru’r Gymraeg yn gwisgo bathodyn i arddangos hynny, ond nid yw’r rheoliadau hyn yn ymwneud ag ysbytai. Mae’r rheoliadau dan sylw yn berthnasol i ofal sylfaneol, sy’n cyfri am bron i 90% o’r holl ymwneud â’r gwasanaeth iechyd.

Er bod Mark Drakeford, yn Weinidog Iechyd ar y pryd, yn 2014 mewn ymateb i ymholiad Fy Iaith Fy Iechyd Comisiynydd y Gymraeg wedi cydnabod bod systemau meddygon teulu yn caniatau cofnodi dewis Iaith cleifion, mae’r rheoliadau hyn yn ‘annog’ gwneud hynny, yn hytrach nag yn ei wneud yn ofyniad.

Bydd dadl ar ddirymu’r rheoliadau, wedi ei chyflwyno gan AC Plaid Cymru, Dr Dai Lloyd, eu trafod yfory (Dydd Mercher, 19 Mehefin).

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.