Etholaeth: Merthyr Tudful ac Aberdâr

Francis Whitefoot

Francis Whitefoot yw ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer Merthyr Tudful ac Aberdâr. Safodd Francis ar gyfer sedd Treharris yn Etholiadau Cyngor Merthyr Tudful 2022, gan gynyddu pleidlais Plaid Cymru.

Mae Francis yn byw yn Mynwent y Crynwyr ac ar hyn o bryd yn gweithio fel Athro Ysgol Uwchradd. Mae'n gyn-aelod o'r Gwarchodlu Cymreig ac yn gweithio i gynorthwyo achosion da yn yr etholaeth ers iddo ddychwelyd i'r ardal ddegawd yn ôl. Mae wedi gweithio ar Bwyllgor Craffu Dysgu’r cyngor fel aelod cyhoeddus, ac mae’n barod i gymryd y cam nesaf a chynrychioli ei gymuned.