Galw am gyllid ychwanegol i Gymru fynd i'r afael a'r Coronafeirws
Mae AC Plaid Cymru Helen Mary Jones wedi galw am gyllid ychwanegol i Lywodraeth Cymru fel y gall cyrff cyhoeddus ymateb yn fwy effeithiol i’r argyfwng coronafirws.
Mae’r Sefydliad Materion Cyllidol wedi nodi: “.. na all y trefniadau cyllido ar gyfer y llywodraethau datganoledig fod yn briodol i’r dasg dan sylw. Mae hyn oherwydd bod ganddynt symiau cyfyngedig o arian wrth gefn, pwerau benthyca cyfyngedig, ac efallai nad yw’r cyllid sy’n dod iddynt o ganlyniad i fformiwla Barnett yn adlewyrchu’r heriau maent yn wynebu. O’r herwydd, gall eu gallu i ymateb yn effeithiol gael ei oedi neu ei beryglu, a gall arian hanfodol gael ei ddyrannu’n annheg ar hyd y DG.
Mae achos i’w wneud dros beri iddynt gael mwy o bwerau benthyca ac ystyried anwybyddu fformiwla Barnett.”
Dywedodd AC y Canolbarth a’r Gorllewin Helen Mary Jones, y Gweinidog cysgodol dros yr Economi:
“Mae’r dadansoddiad arbenigol hwn yn nodedig oherwydd bod y data yn dangos mai Cymru sydd wedi ei tharo waethaf gan coronafirws o holl wledydd y DG. Mae gennym gyfradd uwch o heintio, mwy o bobl oedrannus yn y boblogaeth, sydd felly yn fwy bregus.
“Yr ydym hefyd yn fwy dibynnol ar y diwydiant croesawu. Mae modd dadlau fod ein heconomi o weithwyr hunangyflogedig neu ar eu liwt eu hunain yn fwy bregus gan eu bod yn aml yn cael eu talu llai. Dyna pam y galwais yr wythnos hon yn y Senedd am warchodaeth i weithwyr ar eu pennau eu hunain, pobl hunangyflogedig a’r sawl sy’n gweithio ar eu liwt eu hunain.
“Rwyf wedi gofyn i Lywodraeth Cymru pa drafodaethau a gawsant gyda Llywodraeth San Steffan ynghylch cyllid ychwanegol uwchlaw fformiwla gyllido Barnett i ymdrin â’r argyfwng Coronafirws.
“Mae fformiwla Barnett - y ffordd yr ydym yn cael ein tangyllido - unwaith eto wedi ei amlygu gan yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn. Rydym yn cael ein cyllido trwy fformiwla sydd wedi dyddio ac a ddyfeisiwyd yn y ganrif ddiwethaf, ar sail poblogaeth yn unig, nid ar sail angen.”
Mae cyllidebau Llywodraeth Cymru am 2019-20 a 2020-21 eisoes yn golygu tynnu ar uchafswm yr arian wrth gefn a ganiateir - £125 miliwn y flwyddyn.
Daeth dadansoddiad y Sefydliad Materion Cyllidol i’r casgliad: “Mae achos felly dros alluogi i’r llywodraethau datganoledig fenthyca mwy trwy’r Gronfa Fenthyciadau Genedlaethol, o leiaf ar gyfer mesurau cysylltiedig â’r Coronafirws. Byddai hyn yn caniatáu iddynt ddatblygu, costio a chyhoeddi cynlluniau yn gynt na phetae’n rhaid iddynt aros hyd nes y cyhoeddwyd cynlluniau llywodraeth y DG ar gyfer Lloegr. Dylai cyfathrebu a chydgordio effeithiol rhwng llywodraeth y DG a’r llywodraethau datganoledig hefyd fod yn flaenoriaeth - o leiaf ar hyn o bryd.”
Ychwanegodd AC y Canolbarth a’r Gorllewin Helen Mary Jones: “Mae benthyca gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd wedi ei gyfyngu i £1 biliwn dros bum mlynedd. Mae hyn yn rhy isel o lawer. Dylid caniatáu i Gymru fenthyca i fuddsoddi hyd at £5 biliwn dros bum mlynedd.”