Comisiwn Gofal

Roeddwn yn falch bod Cyngor Cenedlaethol Plaid Cymru yn gynharach eleni wedi cytuno i sefydlu Comisiwn Gofal i edrych ar ddyfodol gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae gan y Comisiwn 8 aelod, ac fel llefarydd Plaid Cymru ar Ofal Cymdeithasol, rydw i’n ei gadeirio. Mae gan y Comisiwn gynrychiolwyr sydd â phrofiad o lywodraeth leol, gofal cymdeithasol, iechyd, y sectorau gwirfoddol ac academaidd. Mae llefarydd Plaid Cymru ar Iechyd, Helen Mary Jones AC hefyd yn aelod.

Mae'r Comisiwn wedi datblygu nifer o themâu y mae am ganolbwyntio arnynt, ac mae bellach yn cymryd tystiolaeth gan ystod o sefydliadau ac arbenigwyr yn y maes. Rydym yn gobeithio adrodd ein canfyddiadau Haf nesaf.

Mae'n amlwg i ni oll fod Gofal Cymdeithasol yng Nghymru o dan bwysau mawr. Mae toriadau ariannol i lywodraeth leol ynghyd a phoblogaeth sy'n heneiddio yn golygu bod cynghorau lleol ledled Cymru yn cael trafferth ateb y galw.

Mae Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru wedi datgan yn glir bod 'Angen i Ofal Cymdeithasol fod yn flaenoriaeth wleidyddol a chyllid uwch gan Lywodraeth Cymru'. Mae angen diwygio'r system.

Rydym yn aml yn clywed am y straeon anobeithiol o unigolion o bob cwr o Gymru sydd ddim yn derbyn y gofal cymdeithasol sydd eu hangen arnynt. Nid yw’r sefyllfa yn dderbyniol, ac fel cymdeithas, dylai fod cywilydd arnyn.

Mae nifer o'r heriau sy'n wynebu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn faterion cenedlaethol, a chredaf mai un o'r prif fethiannau yw diffyg gweledigaeth genedlaethol glir, hirdymor ar gyfer Gofal Cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru.

Mae angen rhoi statws uwch i'r sector, a dyna pam yr wyf wedi cynnig sefydlu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru, yn cael ei ddelifro’n lleol neu'n rhanbarthol.

Yr wyf yn ei chael hi’n anodd cyfiawnhau sut yr ydym wedi datblygu system sy'n golygu bod gofal iechyd yn rhad ac am ddim pan mae ei angen, ond bod angen talu am ofal cymdeithasol. Nid yw hyn yn deg.

Yn ganolog i'n syniad o Wasanaeth Gofal Cenedlaethol yw’r egwyddor y bydd Gofal Cymdeithasol yn rhad ac am ddim, ac yn cael ei ariannu gan drethi cyffredinol - dim mwy o werthu cartrefi i dalu am ofal cymdeithasol.

Rwyf hefyd yn credu bod angen cyfeiriad cenedlaethol o ran hyfforddiant, recriwtio a chadw staff. Mae angen inni sicrhau fod gofal cymdeithasol yn flaenoriaeth genedlaethol - gosod cynlluniau gweithlu clir, a chyflwyno Model Cyflog Cenedlaethol a fyddai'n darparu cyflog byw i weithwyr gofal cymdeithasol ledled Cymru gyfan.

Bydd y Comisiwn hefyd yn edrych ar wahanol fodelau sydd ar gael i sicrhau bod gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cyd-weithio'n effeithiol, a bod unigolion yn derbyn gwasanaeth di-dor.

Mae manylion meysydd ffocws y Comisiwn ar gael ar wefan y Blaid, ac rydym yn awyddus i glywed gan aelodau’r Blaid wrth i ni ddatblygu ein syniadau.

Mae'n hollbwysig ein bod yn cael hyn yn iawn, ac rwyf yn eich annog i rannu’ch syniadau ar hyn, naill ai drwy’r wefan, e-bost neu drwy'r post. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau ysgrifenedig yw Chwefror 28ain 2019.

Er mwyn rannu'ch syniadau, cliciwch yma.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.