Gwarth y Gwaed Heintus
Mae Plaid Cymru yn croesawu adroddiad hir-ddisgwyliedig yr Ymchwiliad i sgandal y gwaed a heintiwyd. Yr oedd hyn yn gamweinyddu cyfiawnder erchyll sydd wedi cymryd degawdau i ddod i olau dydd oherwydd diwylliant amddiffynnol o gyfrinachedd. Yr ydym yn cefnogi argymhelliad yr adroddiad sy’n dweud y dylid gosod dyletswydd didwylledd ar bawb sydd mewn gwasanaeth cyhoeddus, yn ogystal ag iawndal llawn yn syth i bawb yr effeithiwyd arnynt.
Yn yr un modd, yr ydym yn cefnogi’r cynigion a osodwyd allan gan y Comisiynydd Diogelwch Cleifion yn Adroddiad Hughes i ddarparu iawndal a dyletswydd didwylledd i gleifion rhwyll (‘mesh’) a’r sawl a niweidiwyd gan valproate.