Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru

Bu Plaid Cymru yn gweithio i gyflwyno Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru. Credwn y dylai gofal cymdeithasol, fel gofal iechyd, fod am ddim ar y pwynt lle mae’n cael ei ddefnyddio, ac mai artiffisial yw’r rhaniad rhwng y ddau. Bydd rhoi terfyn ar y rhaniad hwn hefyd yn helpu gydag Oedi Trosglwyddo Gofal, yr amser mae pobl yn treulio yn yr ysbyty yn hytrach na mynd i leoliadau gofal. Byddwn yn parhau i weithio tuag at y nod hwn, yn enwedig i gefnogi’r sawl sydd â dementia.

Yr ydym yn cefnogi Ymgyrch John am hawl pobl i gael eu cefnogi gan ofalwyr yn eu teuluoedd, a byddwn yn dweud yn glir ei bod yn hawl dynol i deuluoedd ymweld â chartrefi gofal i gefnogi cleifion â dementia.

Hefyd, yn unol â’r Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol, mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i ymgynghori ar wneud i ffwrdd ag elw mewn darparu gwasanaethau plant. Ein nod yw gweithio tuag at ehangu yn raddol y gallu i ddarparu’n uniongyrchol, mewn gwasanaethau plant ac oedolion, er mwyn cyflawni hyn.

Yr ydym yn cefnogi’r gweithlu gofal iechyd a chymdeithasol yng Nghymru, o ba bynnag wlad y deuant. Mae cyfyngiadau ar fisas i weithwyr gofal a’u dibynyddion yn gam negyddol a ninnau’n gorfod recriwtio staff ychwanegol i gynnal ein sefydliadau. Yn hytrach, dylid rhoi’r gefnogaeth fwyaf priodol i staff i ganiatáu iddynt gymhathu i gymdeithas yng Nghymru.

Byddwn yn talu o leiaf £1 yn fwy na’r Gwir Gyflog Byw i weithwyr gofal cymdeithasol er mwyn gwneud y swydd yn fwy deniadol a gwella recriwtio, a chysylltu hyn â’r mynegai. Byddai hyn yn sicrhau y byddai gweithiwr llawn-amser yn cael £1,8000 yn fwy na’r Gwir Gyflog Byw.

Iechyd a Gofal Cymdeithasol: darllen mwy