Y Gwasanaeth Prawf
Yr ydym yn pryderu fod y gwasanaeth prawf yn dal heb ddigon o adnoddau ac yn cael ei lethu gan waith.
Yr ydym yn cefnogi galwad NAPO am raglen leihau strategol, gyda beichiau gwaith diogel a system o neilltuo achosion. Mae beichiau gwaith y gellir eu rheoli yn allweddol i sicrhau bod staff, troseddwyr a’r cyhoedd yn cael eu hamddiffyn.
Byddai datganoli’r system gyfiawnder yn sicrhau gwell cydweithrediad rhwng y carchardai a gwasanaethau sydd eisoes wedi eu datganoli, gan leihau digartrefedd pan ryddheir carcharorion, yn gwella darpariaeth iechyd ac yn ymdrin â phryderon am Garchar preifat y Parc.