Cefnogi ein Gwasanaethau Bws

Mae gwasanaethau bws wedi eu tangyllido gan Lywodraeth Lafur Cymru ers Covid, gan arwain at doriadau mawr yn y flwyddyn a aeth heibio.

Mae hyn yn benodol yn broblem yn rhannu mwy gwledig y wlad, lle’r oedd gwasanaethau bws lleol eisoes yn brin, yn aml yn dod i ben yn gynnar yn y dydd. Byddwn yn adolygu’r toriadau mewn cymorthdaliadau i gwmnïau bysus sydd wedi arwain at dorri gwasanaethau, sy’n ei gwneud yn anodd i bobl fynd i’r gwaith, i siopa neu i deithio ar y bws i gymdeithasu â ffrindiau.

Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau fel y Bwcabus hyblyg ar alw yn Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro, a byddwn yn parhau i gefnogi rhwydwaith TrawsCymru sy’n cysylltu cymunedau lle nad oes cysylltiadau rheilffordd.

Trafnidiaeth: darllen mwy