Nid yw Llywodraeth Cymru “heb rym i weithredu”, ond eto “does dim golwg o’r Gweinidog Iechyd yn unman” – Rhun ap Iorwerth AS

Mae’r Gweinidog Iechyd wedi ei chyhuddo o fod “ar goll” gan Blaid Cymru.

Mae llefarydd Plaid Cymru dros iechyd a gofal, Rhun ap Iorwerth AS wedi dweud bod angen camau “brys a phendant” gan Lywodraeth Cymru, ond eto “does dim golwg o’r Gweinidog Iechyd yn unman.”

Daw’r galwadau wrth i Gyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru ddisgrifio’r gwasanaeth iechyd fel un prin yn gallu ymdopi â’r pwysau.

Er bod y BBC yn rhedeg tair stori gwahanol ynglŷn â argyfwng y GIG dros y 24 awr ddiwethaf, dyw’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, ddim wedi rhoi ymateb i’r straeon, ac nid yw hi chwaith wedi ymddangos mewn unrhyw gyfweliadau.

Mewn cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd yn ystod Cyfarfod Llawn olaf 2022, roedd Eluned Morgan wedi mynegi “gobaith” y byddai'r GIG yn gwella erbyn i’r Senedd ail-ymgynnull yr wythnos nesaf. Mewn ymateb, roedd Mr ap Iorwerth wedi dweud “nad yw’r GIG yn mynd i oresgyn ei broblemau os mai’r gobeithio am y gorau’n unig mae’r Gweinidog”.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros iechyd a gofal, Rhun ap Iorwerth AS,

“Pan mae arbenigwyr yn dweud bod y gwasanaeth iechyd ar dorri, mae angen ymateb brys a phendant gan Lywodraeth Cymru. Ond, does dim golwg o’r Gweinidog Iechyd yn unman - dylai hi o leiaf fod yn weladwy tra bod y GIG mewn fath stad gritigol.

“Nid yn unig yw ein gweithwyr iechyd a gofal arwrol yn delio â phwysau eithafol yn sgil mwy o alw a phrinder staff, ar hyn o bryd maent yn gorfod mynd i’r afael â chyfweliadau teledu hefyd. Oll tra bod y Gweinidog Iechyd ar goll.

“Tydi hi ddim digon da i Lywodraeth Cymru roi’r bai ar Lywodraeth y DU. Tra’i bod yn wir bod San Steffan yn dal tannau’r pwrs, nid yw Llywodraeth Cymru’n ddi-rym i weithredu. Mae Plaid Cymru wedi bod yn galw arnynt ers tro i ddefnyddio’r holl rymoedd sydd ganddyn nhw i wneud rhywbeth - unrhyw beth ar y pwynt yma – i ddangos eu bod yn gwrando, a bod ein GIG yn flaenoriaeth iddynt.”