Gweithlu’r GIG
Cred Plaid Cymru mai eu staff yw asgwrn cefn y GIG. Rydym yn sefyll gyda meddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill sy’n gweithredu’n ddiwydiannol ar fater tâl ac adfer cyflogau. Credwn fod yn rhaid anrhydeddu addewidion i adfer tâl staff y GIG cyn gynted ag sydd modd, er mwyn dangos ein bod yn rhoi gwerth ar ein staff ac yn eu cefnogi, a hefyd i hybu recriwtio a chadw mewn meysydd allweddol.
Yng Nghymru, rydym wedi gweld gostyngiad sylweddol yn nifer y meddygon teulu dros y ddegawd a aeth heibio. Bydd Plaid Cymru yn gwrthdroi’r duedd hon trwy adfer cyllid i feddygon teulu i 8.7% o gyllideb iechyd Cymru, a thrwy recriwtio 500 yn ychwanegol o feddygon teulu ledled y wlad. Oherwydd yr amser sydd ei angen i recriwtio a hyfforddi meddygon, addewid dros ddau dymor fydd hwn.
Byddai Plaid Cymru yn peri bod mwy o brentisiaethau gradd ar gael yn y sector gofal iechyd i roi mwy o gyfle i bobl ifanc ddod i mewn i’r proffesiwn ac aros yng Nghymru i weithio.
Mae swyddi gwag yn y GIG yn golygu fod gwario ar weithwyr asiantaeth yn dal yn uchel iawn. Bydd cynllunio’r gweithlu yn well a recriwtio i swyddi yn arbed arian.
Cred Plaid Cymru na ddylai cyfranddalwyr elwa o salwch pobl, ac y byddai elw asiantaethau preifat yn arwain at well gwasanaethau petai’n cael ei ail-fuddsoddi yn hytrach mewn gofal iechyd.
Mae angen gwneud contractau nyrsys yn fwy hyblyg i adlewyrchu ein hoes fel y mae. Mae llawer o nyrsys yn rhan-amser am eu bod yn ymdopi â chyfrifoldebau eraill fel gofalu a dysgu, ac y mae arnynt angen mwy o hyblygrwydd i gadw cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd. Byddai Plaid Cymru yn symud tuag at well contract gwaith i nyrsys, ac yn recriwtio mwy o nyrsys.
Mae Plaid Cymru yn cydnabod gwerth gweithwyr nyrsio a meddygol atodol, ond ni ddylai eu cyflwyno fod ar draul arbenigedd cyffredinol y gweithlu. Dylai unrhyw rolau newydd gael eu datblygu trwy ymgynghori’n llawn â’r undebau llafur perthnasol.