Tegwch i Weithwyr

Yr ydym o blaid datganoli cyfraith cyflogaeth i Gymru, o weld Llywodraeth Geidwadol y DG yn tynnu’n ôl hawliau gweithwyr yn San Steffan dros y blynyddoedd diwethaf.

Mewn byd lle mae mwy fyth o fygythiadau i weithwyr, mae angen dybryd am gryfhau hawliau cyflogaeth. Buasem yn diddymu deddfwriaeth adweithio gwrth-streicio y Torïaid. Buasem hefyd yn cefnogi deddfwriaeth i fynd i’r afael â gwaith anniogel, darparu absenoldeb oherwydd profedigaeth neu golli baban fel ‘hawliau cyflogaeth undydd’, yn gwahardd tactegau diswyddo ac ail-gyflogi, yn gwneud i ffwrdd a chontractau gorfodol dim-oriau, yn sefydlu’r hawl i ‘ddatgysylltu’ (hawl i beidio â chael cysylltiad fel mater o drefn am waith y tu allan i oriau gwaith arferol), ac yn diwygio Absenoldeb Rhieni a Rennir.

Yn dilyn cyflwyno’r Ddeddf Absenoldeb i Ofalwyr 2023 sy’n rhoi hawl i bum diwrnod o absenoldeb di-dâl i ofalu am berson gydag angen tymor-hir, dylid ystyried darpariaeth debyg o absenoldeb gyda thâl.

Economi a Threthiant: darllen mwy