Gwersi’r pandemig ar gyfer dyfodol ar ôl Covid

1. Ein cyfrifoldeb ni

Does dim byd na allwn ni ei wneud gyda’n gilydd fel cenedl. Drwy ddilyn ein llwybr ein hunain – y llwybr cywir i’n cymunedau a’r llwybr cywir i Gymru – rydyn ni wedi gweld yr enghreifftiau mwyaf effeithiol o weithredu. Mae argyfwng Covid wedi dangos beth yw gwerth y lefel gyfyngedig o hunan-lywodraeth sydd ganddon ni, a pha mor bwysig yw gweithredu’n annibynnol ar San Steffan.

O system olrhain cysylltiadau gynnar Ceredigion, i’r timau gofal sylfaenol lleol a ddaeth at ei gilydd, ar ôl diflasu ar aros i system iechyd ganolog sydd mor bell o’u cymunedau drefnu dosbarthu’r brechlyn, i wneud hynny drostyn nhw eu hunain. Rydyn ni wedi gweld mai’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru sydd yn y sefyllfa orau i’n cadw ni’n ddiogel. Bydd y datrysiadau i’n problemau yn dod ganddon ni i gyd, gyda’n gilydd, ac nid gan rym pellennig senedd arall mewn lle arall, na drwy lywodraeth na wnaethon ni ei hethol yn ymyrryd yn ein materion ni.

2. Mae’r gwasanaethau a’r nwyddau rydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw yn amhrisiadwy

Rydyn ni bellach yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi faint rydyn ni’n dibynnu ar wasanaethau sylfaenol sy’n hanfodol er mwyn goroesi, a gwerth darparwyr fel ein cynhyrchwyr bwyd. Allwn ni ddim fforddio peidio â buddsoddi’n briodol yn yr hanfodion mwyaf sylfaenol. Serch hynny, mae Cymru wedi’i chlymu i system wleidyddol San Steffan sy’n gynyddol seiliedig ar hunanoldeb a thrachwant. Nid yw’n adlewyrchu ein gwerthoedd, nac yn gwarantu ein hanghenion mwyaf sylfaenol.

Mae gwasanaethau cyhoeddus wedi cael eu contractio allan a’u torri i’r asgwrn gan ddegawd o lymder San Steffan, ac wedi’n gadael ni’n fregus ac yn amharod yn llygad y storm. Yn nes at adref, rydyn ni wedi gweld system arall sydd wedi mynd o chwith yn ddifrifol – system addysg uwch sy’n cael ei gyrru nid gan addysg, ond gan y farchnad, sy’n blaenoriaethu elw dros fyfyrwyr ac iechyd y cyhoedd. Rydyn ni wedi gweld mor dwyllodrus yw’r syniad o ddarparu gofal – un o’n hanghenion mwyaf sylfaenol fel pobl – am elw. Yng Nghymru, fel yn Lloegr, rydyn ninnau hefyd wedi cwympo i’r fagl o wario arian cyhoeddus i ddenu cwmnïau o’r tu allan i ddarparu swyddi, yn hytrach na thyfu ein busnesau bach a chanolig ein hunain. Rydyn ni wedi rhoi cymorthdaliadau hael gan y llywodraeth er mwyn i’r rhwydwaith trafnidiaeth – sydd yno i’n gwasanaethu ni i gyd – gael ei redeg fel busnes, gyda pherchnogion y busnes yn cerdded i ffwrdd pan nad oes mwy o elw i’w wneud. Yn y pen draw, y trethdalwr sy’n gorfod talu’r bil a thalu’r pris o gydymffurfio â San Steffan, a dilyn meddylfryd San Steffan.

3. Mae unrhyw beth yn bosib, os ydyn ni eisiau iddo ddigwydd

Mae’r pandemig wedi gorfodi newid, gan ddangos beth sy’n bosib pan fydd gwleidyddion ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus yn gorfod newid ffyrdd cyfarwydd a chyfforddus o weithio, a newid hynny’n gyflym. Mae llawer o drafod am roi diwedd ar ddigartrefedd wedi bod ers ugain mlynedd o ddatganoli, ond roedd diffyg ewyllys wleidyddol. Pan darodd Covid, gorfodwyd yr un hen sefyllfa flinedig i weithredu, a daeth digartrefedd i ben dros nos ar strydoedd Caerdydd. Allwn ni ddim dychwelyd at sut roedd pethau o’r blaen.

4. Mae Prydain wedi torri

Yn ystod y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld ochr orau ac ochr waethaf dynoliaeth. Y gorau – yng ngwaith diflino a phenderfynol ein gweithwyr allweddol a’n gwirfoddolwyr lleol. Y gwaethaf – yn y gwleidyddion sydd mewn grym yn San Steffan, a ymatebodd yn rhy hwyr ac sydd wedi achosi anghydraddoldeb eithafol, a gyda hynny, y gyfradd farwolaethau uchaf yn Ewrop.

Yn wir, mae’r pandemig wedi dangos realiti Prydain fodern i ni: gwladwriaeth sydd wedi’i diffinio gan dlodi dwys, wedi’i rheoli gan elît llygredig sy’n rhoi contractau i’w cyfeillion ac yn gwadu ffyrlo i’w cymdogion, gan wario biliynau ar system olrhain cysylltiadau fethedig sy’n cael ei redeg am elw gan y sector preifat. Gwelson ni’n ddiamheuaeth nad yw San Steffan yn darparu ‘polisi yswiriant’ o fath yn y byd, wrth iddi beidio â thalu pan oedd angen ymestyn y cynllun ffyrlo arnon ni er mwyn cael Cyfnod Atal hirach ym mis Tachwedd y llynedd. Mewn gwledydd datblygedig, y rhai sydd â’r anghydraddoldebau uchaf yw’r rhai sydd â’r nifer uchaf o farwolaethau – yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig – dwy gymdeithas nad ydyn nhw’n unedig o gwbl, ond sydd wedi’u rhannu gan ddosbarth, daearyddiaeth, hil a chyfoeth.

Ond erbyn 2021, Cymru oedd wedi dioddef y gyfradd farwolaethau waethaf, hyd yn oed yng nghyd-destun Prydain. Gwelson ni hefyd nad yw San Steffan yn gyfrwng i ddatblygu buddiannau gweithwyr nac i wella bywydau neb – fel Cymru, mae effeithiau’r pandemig wedi cael effaith anghymesur ar gymunedau ôl-ddiwydiannol yng ngogledd Lloegr hefyd, ac wedi gwaethygu gwahaniaethau rhanbarthol hanesyddol gwladwriaeth Prydain. Ar y llaw arall, fel gwlad annibynnol, gallen ni fod wedi talu pobl i ynysu’n gywir ac achub y blaen ar y feirws.

5. Mae’n rhaid i bobl Cymru gymryd yr awenau gyda’u dyfodol eu hunain

Fel pe bai amheuaeth erioed, gallwn ddweud nawr â sicrwydd nad yw San Steffan yn gweithio i Gymru. Pa bynnag blaid Lundeinig sydd mewn grym, fydd Cymru byth yn flaenoriaeth i San Steffan, ac ni fydd ein blaenoriaethau yn cael eu gwarantu gan San Steffan. Mae Cymru a San Steffan yn ddau fydysawd cynyddol wahanol, lle:

  • Mae cynnydd o 1 y cant yng nghyflogau nyrsys, a chynnydd o 44 y cant ar gyfer arfau niwclear.
  • Mae tanwariant hanesyddol yn rheilffyrdd ein gwlad, tra bod mwy na £100 biliwn yn cael ei wario ar HS2 a fydd yn cysylltu’r wlad drws nesaf, heb ddim cyllid o ganlyniad ar gyfer rheilffordd cyflymder uchel rhwng gogledd a de ein gwlad.
  • Caiff £12 biliwn eu gwario ar adnewyddu Palas San Steffan, tra bod senedd etholedig Cymru yn cael ei hanwybyddu a’i phwerau yn cael eu tynnu oddi arni, gan danseilio’r datganoli y pleidleisiodd pobl Cymru drosto ar ddim llai nag 14 achlysur, drwy ddau refferendwm a thrwy ethol mwyafrif o blaid datganoli ym mhob etholiad ers 1997.

Mae’r amser wedi dod i Gymru ddewis ei dyfodol – dyfodol yn ein dwylo ni, neu ddyfodol wedi’i bennu yn San Steffan a gan San Steffan.

Dwi'n pleidleisio dros y Blaid

11,840 votes

Gyda Coronavirus yn ein hatal rhag cael y sgyrsiau wyneb yn wyneb arferol ar stepen y drws, rydym yn newid y ffordd rydym yn ymgyrchu yn yr etholiad hwn.

Byddai'n help mawr i ni wybod eich bod yn pleidleisio drosom, gan ein galluogi i ganolbwyntio ein hymdrechion ymgyrchu ar berswadio'r rhai nad ydynt eto wedi penderfynu sut i bleidleisio.

Os ydych chi'n pleidleisio dros Blaid Cymru eleni, rhowch wybod i ni.

Ydych chi'n pleidleisio dros Blaid Cymru?

Gan ateb yr holiadur yma, rydych yn cytuno gall Blaid Cymru recordio'ch barn gwleidyddol a'i ddefnyddio er mwyn ymgyrchu. Gallwch ddarganfod ein polisi preifatrwydd yma.

Ydw rydw i yn cefnogi Plaid Cymru.
Na nid wyf yn cefnogi Plaid Cymru.
Efallai fy mod yn cefnogi Plaid Cymru, dywedwch fwy wrthyf.

Ein Gweledigaeth: darllen mwy