Y Gwrthdaro yn Gaza
Galwodd Plaid Cymru yn gyson am gadoediad heddychlon yn Gaza, rhyddhau’r holl wystlon, a thrafod terfyn i’r gwrthdaro.
Pasiwyd ein cynnig yn galw am gadoediad syth ym mis Tachwedd 2023 gan ein Senedd.
Yr ydym yn cydnabod Gwladwriaeth Palestina fel cam hanfodol tuag at heddwch yn y rhanbarth. Mae Plaid Cymru yn condemnio’n llwyr yr erchyllterau a gyflawnwyd gan Hamas ar Hydref 7, llofruddio degau o filoedd o sifiliaid diniwed yn y rhanbarth, a’r hil-laddiad enbyd a gyflawnwyd gan Lywodraeth Israel yn erbyn pobl Gaza. Mae Amnest Rhyngwladol yn gosod Gwladwriaeth Israel yng nghategori gwladwriaeth apartheid, sydd wedi derbyn cefnogaeth uniongyrchol ac anuniongyrchol llywodraethau Gorllewinol, gan gynnwys y Deyrnas Gyfunol.
Cred Plaid Cymru ymhellach y dylai Gweinidogion Llywodraeth Israel sy’n gyfrifol am droseddau rhyfel, gan gynnwys hil-laddiad, gael eu dal i gyfrif gan lysoedd rhyngwladol am eu gweithredoedd. Byddwn yn mynnu bod Llywodraeth y DG yn cadarnhau’r holl benderfyniadau a wneir gan y Llys Troseddol Rhyngwladol, gan gynnwys gweithredu ar bob gwarant arestio a gyhoeddir ganddynt. Galwn ymhellach ar Lywodraeth y DG i wahardd llysgennad Israel hyd nes y bydd Llywodraeth Israel yn rhoi terfyn ar apartheid a’u gweithredoedd anghyfreithlon. Byddwn hefyd yn galw am waharddiad ar bob gwerthiant arfau i wladwriaeth Israel.
Gwrthwynebodd Plaid Cymru y Mesur Gweithgaredd Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor) a phleidleisio yn ei erbyn, gan mai ei nod oedd atal awdurdodau cyhoeddus rhag cymryd rhan mewn ymgyrchoedd boicotio, dad-fuddsoddi a sancsiynau.
Mae Plaid Cymru yn cefnogi pob ymgyrch yn erbyn gwladwriaethau gorthrymus trwy ddefnyddio unrhyw ddulliau heddychlon gan gynnwys boicotio, dad-fuddsoddi a sancsiynau, ac yn ymrwymo i warchod yr hawl ddynol i brotestio heb rwystr, atal neu gyfyngu annheg.