Y Gwrthdaro yn Wcráin
Aeth dros ddwy flynedd heibio ers i Rwsia ymosod ar Wcráin.
Cred Plaid Cymru fod yn rhaid cynnal sofraniaeth genedlaethol Wcráin a hawl Wcrainiaid i fyw mewn hedd.
Credwn fod gan Wcráin hawl i’w amddiffyn ei hun rhag ymosodiadau a goresgyniad.
Wrth i’r goresgyniad fynd rhagddo, croesawyd ffoaduriaid o Wcráin i’n cymunedau a gweld eu bod yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i fywyd Cymru. Mae Plaid Cymru yn cefnogi Cymru fel Cenedl Noddfa i ffoaduriaid sy’n ffoi rhag gwrthdaro.