Gwthio porthladdoedd Cymru i’r ymylon mewn trafodaethau Brexit

porth.jpg

Nid yw Adran Brexit wedi ymweld ag unrhyw borthladd yng Nghymru.

Mae Plaid Cymru wedi beirniadu Adran Brexit Llywodraeth y DG am fethu â thalu’r un ymweliad â phorthladd yng Nghymru ers refferendwm yr UE ym Mehefin 2016.

Datgelodd Cwestiwn Seneddol yn Nhŷ’r Cyffredin fod Gweinidogion Brexit wedi ymweld â naw porthladd ledled y DG ond dim un yng Nghymru, ar waethaf yr oblygiadau allweddol i borthladdoedd Cymru pan fydd y DG yn gadael yr UE.

Porthladd Caergybi yw’r ail borthladd prysuraf yn y the DG a’r llwybr mwyaf poblogaidd  i fasnachu ag Iwerddon. Defnyddir y porthladd gan fusnesau o Iwerddon i fasnachu gyda’r DG ac fel pwynt mynediad i farchnadoedd Ewropeaidd eraill.

Mynegodd Plaid Cymru bryderon, os bydd gwiriadau tollau yn cael eu cyflwyno rhwng Cymru ac Iwerddon, y byddai Cymru yn cael ei gwthio i’r ymylon o ran llwybrau masnach i sicrhau masnach rydd a llyfn gydag Ewrop, ac y byddai hyn yn golygu canlyniadau difrifol iawn i economi Cymru. Byddai colli’r fasnach hon trwy Gaergybi yn golygu colli gwerth rhyw £1 biliwn o fasnach gydag Iwerddon bob wythnos.

Mae’r cwmni fferi, Irish Ferries wedi dweud cyn hyn y gallai ail-gyflwyno gwiriadau tollau arwain at i “DG plc yn dod i stop yn sydyn” a dywedodd Stena Line y gallai gwiriadau tollau darfu ar holl fodel busnes “porthladd agored” Caergybi.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Brexit yn San Steffan, Hywel Williams AS, fod y ffaith fod Gweinidogion Brexit wedi methu ag ymweld â phorthladdoedd Cymru yn “arwydd trist o anwybyddu diddordebau Cymru yn ehangach yn San Steffan.”

Yn ei sylw, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Brexit ac aelod o Bwyllgor Brexit, Hywel Williams AS:

“Mae’r ffaith, er mai yma y mae ail borthladd prysuraf y DG, nad oes yr un Gweinidog o Adran Brexit y DG wedi ymweld â phorthladd o Gymru ers y refferendwm yn arwydd trist fod diddordebau Cymru yn ehangach yn cael eu hanwybyddu yn San Steffan. 

“Mae pwnc cynnal ffin agored yn Iwerddon a chynnal Cytundeb Gwener y Groglith wedi bod yn ganolog i drafodaethau Brexit, ac felly dylai fod, ond ni ddylid gadael i’r oblygiadau difrifol i Gymru os gosodir ffin galed ym Môr Iwerddon rhwng Cymru ac Iwerddon beidio bod ym meddyliau’r sawl sy’n trafod.

 “Mae’r 400,000 o lorïau ac ôl-gerbydau sy’n pasio trwy’r porthladd bob blwyddyn yn gwneud hynny’n rhydd heb fawr ddim oedi.. Os byddwn yn gadael y Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau, bydd yn rhaid i hyn newid. All yr un lefel o “ddigideiddio” wrthweithio’r ffaith nad oes lle o gwmpas y porthladd i’r math o seilwaith fydd ei angen i alluogi gwiriadau tollau.

 “Mae angen i Lywodraeth y DG fod o ddifrif am dynged porthladdoedd Cymru, a cham rhesymol cyntaf fyddai i Weinidogion Brexit fynd i Gaergybi. Y dirmyg llwyr hwn tuag at fuddiannau Cymru sy’n symbylu dadl Plaid Cymru y dylai Cymru gael llais uniongyrchol yn ein perthynas yn y dyfodol gydag Ewrop, yn hytrach na dibynnu ar Lywodraeth San Steffan sydd eisoes wedi profi nad oes ganddynt ddiddordeb o gwbl.”

 

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.