Gwarantu ein Hanfodion

Dan Lywodraeth Geidwadol y DG, mae budd-daliadau nawdd cymdeithasol yn aml wedi methu â chynyddu yn unol â chynnydd mewn prisiau. Arweiniodd hyn at sefyllfa lle mae bron i dri chwarter y bobl yn y DG sydd mewn angen dybryd yn derbyn nawdd cymdeithasol.

Trwy gysylltu budd-daliadau craidd â chwyddiant, mae hyn yn cynnal y symiau cyfredol heb gosbi’r sawl sy’n eu derbyn ymhellach, ac atal llywodraethau yn y dyfodol rhag defnyddio budd-daliadau fel pêl-droed wleidyddol.

Mae Plaid Cymru yn cefnogi lefel Gwarant Hanfodion i sicrhau bod unigolion a theuluoedd yn derbyn o leiaf yr isafswm sydd ei angen i fyw eu bywydau beunyddiol. Mae Sefydliad Joseph Rowntree wedi gweithio hyn allan fel £120 a £200 i gwpl.

Trwy wneud hyn yn isafswm cyfreithiol mewn Credyd Cynhwysol, byddai’r lwfans safonol yn cael ei osod fel nad yw unrhyw ddidyniadau yn mynd ag incwm yn is na’r trothwy hwn.

Lles: darllen mwy