Ffocws newydd ar atal salwch hefyd wrth wraidd gweledigaeth gwasanaeth Iechyd A Gofal Plaid

Bydd Plaid Cymru yn buddsoddi yn y gweithlu, gan gynnwys sicrhau cydraddoldeb triniaeth ar gyfer staff gofal os cael eu hethol i'r Llywodraeth ym mis Mai, meddai Gweinidog Iechyd Cysgodol, Rhun ap Iorwerth AS.

Wrth “ddiolch o’r galon” i weithwyr iechyd a gofal am eu gwaith yn ystod y pandemig, dywedodd y Gweinidog Iechyd Cysgodol na allai pethau fynd yn ôl i “sut yr oeddent o’r blaen” a rhybuddiodd y byddai rhaid adeiladu’n ôl yn well olygu bod “gwersi wedi cael eu dysgu”.

Yn siarad cyn Cynhadledd Wanwyn Plaid Cymru dywedodd Mr ap Iorwerth, er mwyn gallu taclo amseroedd aros hir, pwysau ar y gweithlu, a diagnosis a thriniaethau, byddai’r blaid yn ymrwymo i adeiladu gwasanaeth iechyd a gofal cenedlaethol “cadarn” a “gwydn” – gan gychwyn ar hyfforddi a recriwtio 1,000 o ddoctoriaid a 5,000 o nyrsys newydd a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill.

Meddai Mr ap Iorwerth y byddai uchelgeisiau Plaid Cymru i “drawsnewid” iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer staff iechyd a gofal a chleifion yn ogystal yn cynnwys creu Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cenedlaethol 'gwirioneddol ddi-dor' - gyda gofal cymdeithasol am ddim a chynnydd cyflog gweithwyr gofal. Byddai hybiau lles ieuenctid yn dod â ffocws newydd i faterion iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc.

Addawodd hefyd ffocws fel erioed o'r blaen ar fesurau ataliol i wneud Cymru yn genedl fwy iach.

Dwedodd Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS,

“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi amlygu problemau a oedd eisoes yn cael eu teimlo’n ddwfn o fewn iechyd a gofal gydag amseroedd aros, sydd eisoes yn rhy hir, bellach yn tyfu i lefelau hyd yn oed yn fwy brawychus.

“Os ydym wirioneddol am daclo’r materion cronig sy’n trafferthu ein GIG - rhestrau aros hir, y pwysau ar weithwyr iechyd a gofal, oedi mewn triniaeth a diagnosis, ac i sicrhau bod ein GIG yn gwella o’r pandemig yna mae’n rhaid i ni adeiladu gwasanaeth iechyd a gofal mwy gwydn a chadarn.

“Mae hyn yn dechrau gydag adeiladu gweithlu mwy gwydn ac i fynd i’r afael â materion cronig y gweithlu, bydd Plaid Cymru yn dechrau ar hyfforddi a recriwtio 1,000 o feddygon ychwanegol a 5,000 o nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill.

“Bydd Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cenedlaethol yn rhoi’r parch y maent yn eu haeddu i weithwyr gofal, gan eu rhoi ar yr un telerau ac amodau gweithio a graddfeydd cyflog â gweithwyr iechyd ochr yn ochr â gofal cymdeithasol am ddim - egwyddor rwyf wedi dyheu amdani ers amser maith, ac rwy'n bwriadu cyflawni hynny mewn Llywodraeth.

“Ar gyfer bobl ifanc, byddwn yn darparu gofal iechyd gwell gyda rhwydwaith cenedlaethol o hybiau lles ieuenctid, gan roi cefnogaeth sydd fawr ei hangen ar faterion iechyd meddwl yn benodol – gan ddangos ein bod yn genedl ofalgar ar gyfer pob oedran.

“Mae ein huchelgeisiau i drawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol yn uchelgeisiau sy'n adlewyrchu anghenion a dyheadau'r gweithlu yn ogystal â chleifion. Rydym yn bwriadu cyflwyno cynllun i wneud Cymru yn fwy gwydn a chynaliadwy, gan ganolbwyntio ar yr ataliol a chreu cenedl fwy iach ym mhob ystyr.”