Heledd Fychan

Heledd Fychan

Gwefan Facebook Twitter Instagram TikTok Threads E-bost Gwefan y Senedd

Rhanbarth: Canol De Cymru

Portffolio: Addysg, y Gymraeg a Diwylliant; Rheolwr Busnes

Magwyd Heledd yn Ynys Môn, lle mynychodd Ysgol Gynradd y Talwn ac Ysgol Uwchradd David Hughes. Astudiodd Hanes a Gwleidyddiaeth yng Ngholeg y Drindod yn Nulyn, gan gael ei hethol yn Swyddog Sabathol Addysg yn Undeb Myfyrwyr Coleg y Drindod ac yna yn Swyddog Sabathol Addysg Undeb Myfyrwyr Iwerddon. Mae ganddi radd meistr mewn Hanes Canol Oesoedd o Brifysgol Bangor. Mae Heledd yn byw ym Mhontypridd gyda ei gwr, eu mab a Nel y Beagle.

Cyn cael ei hethol, gweithiodd Heledd am ddeuddeg mlynedd i Amgueddfa Cymru fel Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus gan arwain ar lywodraethiant, strategaeth, cyfathrebu mewnol, cysylltiadau rhyngwladol a ymgysylltu gyda rhanddeiliaid. Bu yn aelod o Fwrdd y Museums Association gan gadeirio eu Pwyllgor Moeseg mewn Amgueddfeydd a’u Pwyllgor Cenhedloedd.

Yn 2017, cafodd Heledd ei hethol i gynrychioli ward Tref Pontypridd ar Gyngor Rhondda Cynon Taf a hefyd Cyngor Tref Pontypridd. Cafodd ei hail-ethol ar Gyngor Tref Pontypridd yn 2022. Mae hi hefyd yn Lywodraethwraig yn Ysgol Gynradd Gymaeg Evan James.

Prif ddiddordebau Heledd yw diwylliant, hanes a threftadaeth; sicrhau gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd, yn arbennig mewn ardaloedd gyda risg parhaus o lifogydd; diddymu tlodi plant a sicrhau system addysg sy’n gweithio i bawb; a sicrhau bod gan bawb yr hawl i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg.

Mae Heledd hefyd yn angerddol ynglŷn â iechyd menywod, ac yn parhau i alw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i sicrhau mynediad hawdd at gynhyrchion mislif am ddim i ddileu tlodi mislif a sicrhau urddas mislif.