Mae Plaid Cymru yn annog y sawl sy’n siopa yng Nghymru i gefnogi’r stryd fawr trwy gydol y flwyddyn a chefnogi eu masnachwyr lleol. Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet cysgodol y blaid dros yr Economi a Seilwaith, Adam Price, fod cefnogi busnesau lleol yn hanfodol bwysig i gadw cyfoeth yn lleol a chreu swyddi.
Fodd bynnag, dywedodd y dylai Llywodraeth Cymru wneud llawer mwy i gefnogi busnesau trwy roi rhyddhad ardrethi busnes parhaol i fwy o fusnesau, a rhoi mwy o gontractau sector cyhoeddus i gwmnïau lleol llai.
Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi a Seilwaith, Adam Price:
“Mae siopa Nadolig yn rhoi cyfle gwych i gefnogi busnesau lleol, ond mae’n bwysig ein bod hefyd yn cofio dangos ein cefnogaeth trwy gydol y flwyddyn.
“Fel siopwyr, mae gennym bŵer prynu ardderchog. Mae pob £1 a wariwn mewn siop leol yn werth 63c i’r economi lleol ac y mae cwmnïau bach yn cynhyrchu 58% yn fwy o fudd economaidd i economïau lleol na chwmnïau mawr.
“Ond nid arnom ni mae’r baich i gyd; dylai Llywodraeth Cymru fod yn arwain ar hyn a gallent wneud llawer mwy i gefnogi busnesau Cymru.
“Mae Plaid Cymru eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rhyddhad ardrethi busnes parhaol i 90,000 o fusnesau bach - 20,000 yn fwy nac y mae Llywodraeth Cymru yn gynnig - ac yr ydym eisiau rhoi mwy o gontractau sector cyhoeddus i fusnesau lleol. Ar hyn o bryd, dywed Llywodraeth Cymru fod 50% o £6 biliwn o gaffael cyhoeddus yn dod o gwmnïau Cymreig - hoffem weld cynyddu hynny i 75%, gan roi £1.5bn yn ychwanegol ym mhocedi cwmnïau Cymreig.
“Hoffem weld Banc Datblygu Cymru yn cael £500 miliwn yn ychwanegol i gau’r bwlch cyllido - gan ddefnyddio’r arian Trafodion Ariannol a drosglwyddwyd yn ddiweddar o San Steffan, i gychwyn datblygu rhwydwaith newydd o fanciau cymunedol ar y stryd fawr.
“Gadewch i ni wneud adduned blwyddyn newydd i ddangos i’n masnachwyr lleol gymaint yr ydym yn eu gwerthfawrogi, a’u cefnogi gymaint ag y gallwn yn 2018.”