HS2: Sarhad i’r trethdalwr Cymreig

44499356734_abf6ec47f7_k.jpg

Dywedodd Llefarydd Plaid Cymru ar drafnidiaeth, dywedodd Jonathan Edwards AS, fod “HS2 yn sarhad i’r trethdalwr Cymreig” yn dilyn y cyhoeddiad ei fod am fwrw ymlaen.

Ni fydd yr un fodfedd o drac HS2 yn cyrraedd Cymru; fodd bynnag, mae Llywodraeth San Steffan yn gwrthod rhoi unrhyw arian i Gymru i wneud iawn am gost HS2 yn Lloegr, fel sy’n digwydd fel arfer, gan honni mai prosiect ‘Cymru a Lloegr’ ydyw.

 

Yn nodweddiadol, mae gwariant yn Lloegr yn arwain at gynnydd yn yr arian a roddir i Lywodraeth Cymru fel rhan o’r setliad datganoli - ‘arian dilynol Barnett’ yw’r enw ar hyn. Mae’r mesur hwn, seiliedig ar boblogaeth, yn golygu bod Cymru yn cael rhyw 5% o’r arian a werir gan San Steffan yn Lloegr.

 

Bydd yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gweld cynnydd llawn yn y cyllid seiliedig ar boblogaeth oherwydd gwariant San Steffan ar HS2; fodd bynnag, gwrthododd Llywodraeth San Steffan roi i Lywodraeth Cymru yr un cynnydd trwy fecanwaith arian dilynol Barnett.

Mae costau’r prosiect wedi treblu, bron, o £32.2bn i £106bn, hyd yn oed cyn i’r gwaith gychwyn mewn gwirionedd i adeiladu’r rheilffordd.

Mae arbenigwyr trafnidiaeth wedi rhagweld y bydd HS2 yn debyg o leihau twf mewn cyflogaeth yng Nghymru o 21,000 swydd rhwng 2007 a 2040. Byddai hyn oherwydd bod busnesau yn symud i ardaloedd sy’n nes ar orsafoedd HS2 y tu allan i Lundain, yn hytrach na dewis Cymru, a fydd dan anfantais gystadleuol.

Wedi’r cyhoeddiad, dywedodd Jonathan Edwards AS

“Mae Plaid Cymru wedi dweud ers amser fod HS2 yn sarhad i drethdalwyr Cymru, a chyda’r costau yn cynyddu, dim ond gwaethygu wnaiff pethau.

“Tra bod Llywodraeth San Steffan yn cynllunio pontydd i Ogledd Iwerddon a £100biliwn i reilffyrdd yn Lloegr, mae cymudwyr Cymru yn sownd ar drenau gorlawn, hwyr sydd heb fod yn addas at y diben.

“Does dim hyd yn oed lein reilffordd yng Nghymru sy’n cysylltu de a gogledd ein gwlad, heb sôn am reilffordd gyflym.

“Mae Cymru ar ei cholled o ran biliynau o bunnoedd o gyllid sy’n ddyledus i ni – does dim modd i Lywodraeth San Steffan ddadlau mai prosiect ‘Cymru a Lloegr’ yw hwn, pan nad oes modfedd o’r trac yn ein gwlad.

“Y tro diwethaf i mi edrych ar fap,  roedd Llundain, Birmingham, Manceinion a Leeds oll yn Lloegr.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.