Hyrwyddo Mynediad at y Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth

Cred Plaid Cymru fod y celfyddydau i bawb, ac y dylai ein sefydliadau barhau i roi mwy o gefnogaeth a chyfle i bawb ymwneud â hwy a chymryd rhan, waeth beth fo’u cefndir.

Mae hyn yn gofyn am bartneriaethau rhwng rhanddeiliaid i feithrin perthynas rhwng gweithgareddau diwylliannol lleol a’n sefydliadau cenedlaethol.

Dylai Cymru hefyd groesawu sefydliadau diwylliannol o’r radd flaenaf, fydd yn dathlu ein hanes a’n treftadaeth, ac yn adlewyrchu realiti bywyd yng Nghymru. Ni ddylai fod rheswm dros aberthu ansawdd er mwyn sicrhau mynediad i bawb.

Yr ydym yn dal wedi ymrwymo i’n polisi o fynediad am ddim i’n hamgueddfeydd cenedlaethol. Byddwn yn gweithio hefyd gyda’r Urdd ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru i sicrhau bod tocynnau am ddim ar gael i deuluoedd ar incwm isel, gan weithio gyda hwy i weld a fyddai modd ehangu hyn yn y blynyddoedd i ddod.

Rydym yn cefnogi gwell hyrwyddo ar ddiwylliant a threftadaeth Cymru, gan gynnwys yr Amgueddfa Bêl-droed i Wrecsam, a’r Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol.

Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon: darllen mwy