Etholaeth: Bro Morgannwg

Ian James Johnson

Cyn-faer Y Barri, Ian Johnson, yw ymgeisydd Plaid Cymru dros Fro Morgannwg yn yr Etholiad Cyffredinol.

Mae Ian wedi bod yn aelod o Gyngor Bro Morgannwg a Chyngor Tref Y Barri ers 2012, gan arwain grŵp Plaid Cymru ar y cyngor sir ers 2017.

Mae'n adnabyddus am ei sylw craff i fanylion; datgelodd archwiliad Ian o’r cyngor sy'n cael ei redeg gan Lafur fod gorwariant o £3.7m ar system TG newydd, a gwariant o £2.7m ar orsaf fysiau Dociau’r Barri nad oedd oedd yr un bws wedi galw yno am bron i chwe mis.

Yn ymchwilydd gwleidyddol arobryn gyda doethuriaeth o Brifysgol Caerdydd, cydnabyddir Ian hefyd am ennill yr ymgyrch i atal ffracio yn y Fro, ac am ymladd yn erbyn Llosgydd Dociau’r Barri.

Dywedodd Ian Johnson:

“Mae’n anrhydedd fawr cael sefyll etholiad ym Mro Morgannwg eto, a byddaf yn defnyddio fy negawd o brofiad fel cynghorydd etholedig i wneud fy ngorau dros yr ardal os caf fy ethol.

“Mae gen i hanes cryf o weithredu, yn hytrach nag addewidion yn unig, fel y bydd unrhyw un sy’n dilyn y newyddion lleol yn gwybod.

“Nid yw ein gwasanaethau cyhoeddus wedi’u hariannu’n ddigonol ers blynyddoedd, a bydd yn flaenoriaeth i mi sicrhau bod Cymru’n cael yr arian yr ydym yn ei haeddu er mwyn rhoi terfyn ar dlodi plant, gwella ansawdd gwasanaeth y GIG a chael system drafnidiaeth gyhoeddus dda.”