Iechyd Cyhoeddus

Cred Plaid Cymru y dylem symud iechyd cyhoeddus tuag at fod yn wasanaeth sy’n anelu at gadw pobl yn iach. Byddai strategaeth iechyd cyhoeddus ataliol sy’n ail-gydbwyso adnoddau i atal pobl rhag mynd yn sâl yn helpu’r GIG yn gyffredinol trwy atal cleifion rhag dod i mewn i’r system yn gynt nag sydd angen.

Mae anghydraddoldeb iechyd yn rhan bwysig o’r agenda hon, gan gynnwys yr hyn sy’n cael ei bennu gan ddosbarth, hil a rhyw. Dylai adolygiad o fodel ariannu Cymru roi ystyriaeth well i’r hyn sy’n pennu gofal iechyd er mwyn cwrdd â’n hanghenion.

Iechyd a Gofal Cymdeithasol: darllen mwy