Gwleidydda arlein - mae'r gyfraith yn newid
Argraffnodau digidol - gofynion newydd
Manylion sydd angen ymddangos ar ddeunydd gwleidyddol neu ddeunydd sy'n gysylltiedig ag etholiad yw argraffnodau. Maent yn dangos pwy sydd wedi cynhyrchu'r deunydd a thalu amdano. Mae angen iddynt gynnwys enw a chyfeiriad yr hyrwyddwr ac unrhyw berson y cyhoeddir y deunydd ar ei ran.
Ers mis Tachwedd 2023, mae angen i ymgyrchwyr gynnwys argraffnodau ar eu deunydd ymgyrchu gwleidyddol digidol. Mae hyn yn golygu bod angen rhoi argraffnod ar sawl math o ddeunydd digidol megis hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol, tweets a negeseuon. Mae hyn yr un peth â'r gofyniad ar gyfer deunydd ymgyrchu ffisegol, megis taflenni a llythyrau.
Mae deunyddiau sydd angen argraffnod yn cynnwys:
- negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol
- deunydd ar wefan
- hysbysebion mewn papurau newydd ar-lein
- fideos
- delweddau
- negeseuon uniongyrchol ar WhatsApp
Mae hefyd yn ofynnol ar ddeunydd sain megis hysbysebion mewn podlediadau neu ffrydiau.
Mae'r rheolau yn berthnasol drwy'r flwyddyn, nid dim ond yn ystod y cyfnod cyn etholiad, ac maent yn berthnasol i unrhyw un sy'n talu i roi hysbysebion gwleidyddol ar-lein. Ni fydd angen i aelod cyffredin o'r cyhoedd gynnwys argraffnod ar unrhyw ddeunydd digidol organig.
Byddwch yn barod
Trefnodd Plaid Cymru sesiynau hyfforddiant gyda chynrychiolydd o’r Comisiwn Etholiadol i egluro’r newidiadau, a beth maent yn ei olygu i’n hymgyrchwyr a’n gweithredwyr. Gallwch wylio fideo o sesiwn ar-lein isod:
Mwy o wybodaeth
Canllawiau statudol ar argraffnodau digidol (electoralcommission.org.uk)
Awgrymiadau ar ble i gynnwys argraffnodau ar wahanol safleoedd cymdeithasol (plaid.cymru)