Argraffnodau Digidol ar Gyfryngau Cymdeithasol

Mae Plaid Cymru wedi rhoi'r dudalen yma at ei gilydd i gynnig cymorth i aelodau etholedig, Cynghorwyr, ymgeiswyr, Etholaethau, Canghennau, Adrannau ac unrhyw ymgyrchwyr sydd angen defnyddio Argraffnodau Digidol wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol neu ar wefannau NationBuilder.

Noder bod angen defnyddio Argraffnodau Digidol tu hwnt i wefannau a chyfryngau cymdeithasol - ee negeseuon WhatsApp, clipiau sain, hysbysebion digidol etc. Awgrymwn yn gryf eich bod yn ymgyfarwyddo â chanllawiau'r Comisiwn Etholiadol cyn bwrw ati - rhain yw'r canllawiau statudol sydd wedi eu hysgrifennu i egluro gofynion y ddeddf: Canllawiau statudol ar argraffnodau digidol (electoralcommission.org.uk) 

Cynnwys y dudalen


Beth i'w gynnwys

Mae angen dau neu dri darn o wybodaeth - 

  • enw'r hyrwyddwr 
  • unrhyw berson y cyhoeddir y deunydd ar eu rhan - os nad yr hyrwyddwr
  • cyfeiriad post yr hyrwyddwr ac unrhyw berson y cyhoeddir y deunydd ar eu rhan lle gellir cysylltu â nhw - gall fod yn gyfeiriad swyddfa, busnes, cartref, blwch PO neu wasanaeth post arall

Darllenwch ganllawiau'r Comisiwn Etholiadol am ganllawiau llawn: Pa wybodaeth y mae'n rhaid i chi ei chynnwys yn yr argraffnod? (electoralcommission.org.uk)


Geiriad

Cadwch yr argraffnod yn glir, cryno a syml, ee:

  • Hyrwyddwyd gan Ceridwen Williams, 13 Stryd yr Afon, Llanfair, AB12 3EF
  • Hyrwyddwyd gan John Jones ar ran Ceridwen Williams, ill dau o 13 Stryd yr Afon, Llanfair, AB12 3EF
  • Hyrwyddwyd gan Bob Roberts, 27 Heol yr Orsaf, Aberdyfroedd, TH45 6UW ar ran Ceridwen Williams, 13 Stryd yr Afon, Llanfair, AB12 3EF

Sut i'w gyhoeddi

Lle bo'n bosib ac yn ddelfrydol, dylai'r argraffnod fod ym mhob post rydych yn gyfansoddi. Yng ngeiriau'r Comisiwn Etholiadol:

Rhaid i chi gynnwys yr argraffnod yn y postiad ei hun, os bydd hynny'n rhesymol ymarferol.
Cyfryngau cymdeithasol (electoralcommission.org.uk)

Yn aml ar safleoedd cymdeithasol nid yw hyn yn ymarferol, felly mae'r canllawiau yn caniatáu i'r argraffnod eistedd yn rhywle arall, gyhyd â'i fod "un clic" i ffwrdd o'r postiad gwreiddiol. Tydi rhoi dolen i wefan allanol yn eich proffil ddim fel arfer yn ddigonol, gan y byddai hyn yn golygu dau glic o'r postiad gwreiddiol.

Lle nad yw'n bosib rhoi'r argraffnod yn y postiad, dyma lle awgrymwn y gallai'r argraffnod gael ei gyhoeddi, gan ddefnyddio'r geiriad llawn (nid dolen):


Gwefan NationBuilder

Rhowch yr argraffnod llawn yn nhroedyn y wefan fel ei fod yn ymddangos ar bob tudalen - nid dolen i'r argraffnod. Yn themâu Plaid Cymru, gellir addasu'r rhan berthnasol o'r troedyn yn

Websites >> [eich gwefan] >> Theme >> Current Custom Theme >> Files >> _variables.html

Mae'r cod i'w addasu o fewn y case "footer_text_and_links".


Tudalen Facebook

  • naill ai fel rhan o'r bywgraffiad/bio - sef y darn o destun sy'n eich cyflwyno o dan eich enw
  • neu fel Featured Post neu Pinned Post ar dop eich tudalen. Os oes gennych chi fwy nag un Featured Post, sicrhewch mai'r argraffnod ydi'r cyntaf fel ei fod yn y golwg ar ffôn yn ogystal ag ar sgrin lydan.

CanllawiauPin items to the top of your Facebook Page (facebook.com)


X (Twitter)

  • naill ai yn y bio i'ch proffil
  • neu fel Pinned Tweet/Pinned Post 

CanllawiauHow to customize your profile (twitter.com)


Instagram

  • naill ai yn y bio i'ch proffil
  • neu fel Pinned Post ar frig eich proffil

Os ydych yn defnyddio Pinned Post, awgrymwn roi'r testun yn y llun, gan gofio defnyddio Alt textac yn nhestun y Post. Cofiwch nad oes modd creu dolenni yn uniongyrchol o Post ar Instagram.

Canllawiau: Pin a post to the top of your Instagram profile (instagram.com)


Threads

  • naill ai yn y Bio i'ch proffil
  • neu fel Pinned Thread

CanllawiauThreads (facebook.com)


TikTok

Bydd angen sicrhau bod yr argraffnod yn ymddangos ym mhob Postiad - yn y fideo neu'r testun. Mae Bio TikTok yn gyfyngedig iawn (80 nod) felly mae'n bur annhebyg y gellir ei gynnwys yno.


YouTube

Sicrhewch bod yr argraffnod yn ymddangos ym mhob fideo. Os ydych yn rhoi'r testun yn eich proffil YouTube, sicrhewch ei fod yn llinell gyntaf y proffil gan bod YouTube yn byrhau'r proffil, ac mae perygl i'r argraffnod gael ei guddio tu ôl i fotwm "darllen mwy" os nad yw'n ymddangos gyntaf.


LinkedIn

  • yn Headline eich proffil

Canllawiau: Edit Your Headline (linkedin.com)