Annibyniaeth yw “cais Cymru i anelu at y lleuad” medd arweinydd y Blaid

Gadewch i ni wneud Cymru’n barod am annibyniaeth erbyn 2030

Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price wedi dweud y gall Cymru fod yn annibynnol erbyn 2030.

Gan gymharu hyn â chenhadaeth Arlywydd UDA John F. Kennedy i roi dyn ar y lleuad yn y 1960au, dywedodd Mr Price mai annibyniaeth ymhen 10 mlynedd dyw “cais Cymru i anelu at y lleuad”. Aeth yn ei flaen i ddweud, hyd yn oed os nad ydych yn cytuno â’r man cyrraedd, fod creu Cymru sy’n “barod am annibyniaeth” ac sy’n meddu ar y seiliau economaidd a’r hyder diwylliannol yn rhywbeth y gall pawb gytuno arno

Gwnaeth Mr Price y datganiad yn dilyn gorymdaith ar ddydd Sadwrn yng Nghaerdydd, lle bu miloedd yn gorymdeithio o blaid annibyniaeth i Gymru am y tro cyntaf erioed.

Pwysleisiodd arweinydd Plaid Cymru ei ymrwymiad i ddyfodol Ewropeaidd Cymru, gan ddweud y byddai am weld Cymru annibynnol yn dod yn aelod llawn o’r Undeb Ewropeaidd “fel y gallwn harneisio ein hadnoddau ein hunain i’r eithaf”.

Mae ymgyrch Plaid Cymru yn etholiadau Ewrop wedi canoli ar yr angen am Bleidlais y Bobl a’i ymrwymiad i aros yn yr UE.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price:

“Yn y 1960au dywedodd yr Arlywydd Kennedy y byddai America yn rhoi dyn ar y lleuad erbyn diwedd y ddegawd honno. Ymrwymiad oedd hyn a daniodd ddychymyg pobl America.

“Felly beth sy’n cyfateb yn ein dyddiau ni yng Nghymru i anelu at y lleuad i’r Americaniaid? Ennill annibyniaeth yn yr UE fel y gallwn harneisio ein hadnoddau ein hunain yn llawn.

“Ein nod yw gwneud Cymru yn barod am annibyniaeth erbyn 2030. Hyd yn oed os nad ydych yn cytuno a’r man cyrraedd, mae creu Cymru sy’n barod am annibyniaeth, sydd â’r sylfeini economaidd a’r hyder diwylliannol i sefyll ar ei thraed ei hun, yn rhywbeth y gall pawb gytuno ag ef.

“Yn uwch-gynahdledd yr UE ym mis Ebrill, yr oedd arweinwyr Ewrop yn penderfynu ar dynged y DG tra bod y Prif Weinidog yn aros mewn ystafell y tu allan i’r cyfarfod.

“Mae saith o’r arweinwyr hynny a bennodd dynged Prydain yn y trafodaethau hynny yn hwyr y nos yn cynrychioli gwledydd gyda llai o boblogaeth na Chymru - Lwcsembwrg, Cyprus, Malta, Slofenia, Estonia, Lithwania a Latfia.  Ac eto, maen nhw’n dweud wrthym fod Cymru’n rhy fach ac yn rhy dlawd i gael sedd wrth y bwrdd. Dyw hynny ddim yn wir.

“Mae’r ddwy flynedd a aeth heibio wedi datgelu cyn lleied y mae San Steffan yn boeni am Gymru. Yr etholiad Ewropeaidd hwn yw ein cyfle cyntaf i ddangos na wnawn barhau i ddawnsio i diwn San Steffan. Gallwn wneud i Gymru gyfrif, trwy bleidleisio dros Gymru, trwy bleidleisio dros Blaid Cymru.”  

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.