Refferendwm annibyniaeth i Gymru os aiff Brexit rhagddo heb Bleidlais y Bobl

47463030921_311395c587_k.jpg
Dylai Cymru gynnal refferendwm ar annibyniaeth os aiff Brexit rhagddo heb fandad democrataidd terfynol, medd arweinydd Plaid Cymru Adam Price.

Dywedodd Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon yr wythnos hon y bydd yn rhoi cynlluniau ar droed am ail refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban erbyn 2021 os cymerir yr Alban allan o’r UE. Heddiw, rhybuddiodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price ygallai Cymru wneud yr un fath petai Brexit yn digwydd heb Bleidlais y Bobl.

Dywedodd Mr Price y byddai newid cyfansoddiadol ‘anhrefnus’ o’r fath heb ymgynghori â’r cyhoedd yn cyfiawnhau cynnal refferendwm ar ddyfodol Cymru fel cenedl annibynnol. Dywedodd y bydd Cymru toc yn wynebu dewis rhwng dyfodol disglair fel cenedl annibynnol yn yr UE neu ‘ranbarth anghofiedig’ mewn gwladwriaeth Brydeinig sy’n ‘trengi’.

Meddai arweinydd Plaid Cymru Adam Price

“Fe wyddom yn awr beth yw gwir ystyr Brexit - anhrefn a dinistr di-ben-draw yn ein cymunedau, ein diwydiant a’n heconomi. Os bydd Cymru yn dioddef o gael ei llusgo allan o’r UE heb Bleidlais y Bobl, yna dylai gynnal ei refferendwm ei hun ar annibyniaeth. Yn wyneb y fath newid cyfansoddiadol enfawr, mae’n rhaid i bobl Cymru gael y dewis o benderfynu ar eu dyfodol eu hunain - boed hynny’n ddyfodol disgleiriach fel cenedl annibynnol wrth galon Ewrop neu fel rhanbarth eilradd ac anghofiedig mewn gwladwriaeth Brydeinig sy’n trengi.

“Fe wyddom hefyd y bydd refferendwm ar annibyniaeth yn yr Alban - ac os bosib yng ngogledd Iwerddon hefyd, petai Brexit caled yn digwydd. Mae’n hanfodol fod pobl Cymru yn cael cyfle i ateb yr un cwestiwn.

“San Steffan doredig, nid yr UE, sydd wedi methu pobl Cymru. Dwyf i ddim yn credu fod y tlodi sy’n wynebu ein gwlad yn anorfod, ac nid wyf yn credu chwaith mai Brexit yw’r ateb i’r problemau hyn. Yr ateb yw i ni gymryd ein dyfodol i’n dwylo ein hunain a dod yn genedl yng ngwir ystyr y gair. Mae Plaid Cymru yn barod i fwrw ymlaen a’r dasg o hybu ein swyddi a’n diwydiannau a buddsoddi yn ein hysgolion a’n gwasanaeth iechyd. Rydym yn barod i adeiladau’r Gymru Newydd.

“Beth bynnag fydd yn digwydd gyda Brexit dros yr ychydig fisoedd nesaf, fe ddylem gychwyn sgwrs genedlaethol newydd am y math o ddyfodol yr ydym eisiau i Gymru trwy sefydlu Cynulliad Dinasyddion Cymru ar y llinellau a awgrymir yn yr Alban.

“Mae’r etholiad Ewropeaidd ymhen llai na phedair wythnos yn gyfle i benderfynu ar ein dyfodol. Dyma fy neges i bawb sy’n cytuno â ni fod gwell dyfodol yn bosib i’n gwlad: ymunwch a ni, ymgyrchwch gyda ni cyn etholiadau Ewrop, a gyda’n gilydd fe wnawn i Gymru gyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.