Mae Ioan Bellin yn gyn-ddarlledwr i ITV Cymru a BBC Gogledd Iwerddon. Mae wedi gweithio mewn nifer o uwch rolau i Blaid Cymru yn y Senedd dros yr 20 mlynedd diwethaf, ac ar hyn o bryd mae'n gweithio i un o’ch Aelodau Senedd Rhanbarthol ar gyfer Sir Fynwy - Delyth Jewell AS. Mae’n ymgeisydd profiadol wedi sefyll dros Senedd Ewrop, San Steffan a’r Senedd.
Yn enedigol o Reading, treuliodd ei arddegau yn nhref farchnad y Bont-faen, Bro Morgannwg, a chafodd ei addysg yn yr ysgol gyfun leol cyn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Dywedodd Ioan Bellin:
"Fel rhywun â chysylltiadau teuluol yn Sir Fynwy rwy'n falch o fod yn sefyll dros Blaid Cymru yn yr etholaeth. Dim ond pleidlais i Blaid Cymru fydd yn rhoi buddiannau gorau Cymru yn gyntaf yn yr etholiad hwn. Byddwn yn dal pleidiau Llundain i gyfrif, ac yn mynnu'r tegwch y mae Cymru ei angen ac yn ei haeddu.
"Mae'r Torïaid a'u treth uchel wedi chwalu'r economi, ac mae'r bobl yn ein cymunedau yn dal i dalu'r pris gyda biliau uchel. Ar y llaw arall, mae Llafur yn cymryd Cymru'n ganiataol. Ni fydd yr un o bleidiau Llundain yn rhoi Cymru'n gyntaf."