Jack Morris

Ymgeisydd Alun a Glannau Dyfrdwy

Jack Morris - Alun a Glannau Dyfrdwy

Facebook Twitter

Soniwch amdanoch eich hun

Cefais fy ngeni a’m magu yn Wrecsam, ac y mae gen i deulu ym Mhenarlâg a Bwcle.

Priodais fy ngwraig Laura ddwy flynedd yn ôl, ac yn ddiweddar, rydym wedi llwyddo i brynu ein cartref cyntaf gyda’n gilydd.

Rwy’n gweithio’n llawn-amser fel; rheolwr adwerthu, ac wedi bod yn gweithio yn y maes hwn ers i mi adael y Brifysgol ar ôl graddio.

Yn ddiweddar iawn yr ymddiddorais mewn gwleidyddiaeth wrth i mi ddod yn fwy ymwybodol o anghydraddoldeb yn ein cymdeithas. Rwy’n credu y dylai gwleidyddion a llywodraethau weithio i wneud bywyd yn well i’w hetholwyr, i gael maes chwarae gwastad a helpu pawb i gael y cychwyn gorau mewn bywyd. Rwy’n creu mai llywodraeth Plaid Cymru yw’r dewis gorau i Gymru yn 2021. Y Blaid sy’n canolbwyntio ar Gymru ac eisiau rhoi anghenion y bobl yn ganolog ac yn flaenaf at y dyfodol.

Yn eich barn chi, beth yw'r peth pwysicaf y dylai'r Senedd wneud dros y pum mlynedd nesaf?

Gweithio i leihau tlodi plant sydd wedi gwaethygu’n arw oherwydd Covid a Brexit. Ddylai’r un plentyn fynd i’r gwely yn oer ac eisiau bwyd.

Ein cyfrifoldeb fel cymdeithas yw edrych ar ôl y sawl sydd mewn angen mwyaf.

Beth wnewch chi dros Alun a Glannau Dyfrdwy petaech yn cael eich ethol?

Mae gen i dair blaenoriaeth i Alun a Glannau Dyfrdwy:

  1. Gweithio gydag Airbus a chyflogwyr eraill i sicrhau bod nifer y swyddi yn cael eu gwarchod.
  2. Gweithio’n agos gyda chynghorau cymuned a thref i ail-adeiladu economïau bregus ein stryd fawr yn dilyn blynyddoedd o ddirywiad ac effeithiau Covid.
  3. Gweithio gyda heddluoedd Gogledd Cymru a Sir Caer i leihau cyfraddau troseddu a digwyddiadau cysylltiedig â chyffuriau ar Lannau Dyfrdwy.