Etholaeth: Dwyrain Casnewydd

Jonathan Clark

Jonathan yw ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer sedd Dwyrain Casnewydd, ac mae’n byw yn y ddinas lle cafodd ei eni a’i fagu. Ef oedd ymgeisydd Plaid Cymru yn Is-etholiad Gorllewin Casnewydd ym mis Ebrill 2019, yn yr etholiad cyffredinol diwethaf, ac ef oedd ymgeisydd ar gyfer etholaeth Gorllewin Casnewydd yn Etholiadau Senedd Cymru yn 2021.

Mae Jonathan yn gweithio ym maes recriwtio yn y sector cyhoeddus yng Nghaerdydd, a chyn hynny bu'n gweithio ym maes Marchnata a TG ym Mhrifysgol Casnewydd. Cyn hynny bu Jonathan yn gweithio i swyddfa'r wasg yn Heddlu'r Met - y Gyfarwyddiaeth Materion Cyhoeddus a Chyfathrebu Mewnol, a bu'n byw ac yn gweithio yn Llundain rhwng 1990 a 1998. Bu'n gweithio fel newyddiadurwr dan hyfforddiant yn y Pontypool Free Press cyn symud i Lundain i weithio.

Mae'r etholaeth newydd yn cynnwys rhannau o hen etholaethau Gorllewin Casnewydd a Dwyrain Casnewydd.